Stwnsh Sadwrn

Stwnsh Sadwrn

Cystadleuaeth Tocynnau Cymru v De Affrica

CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL –TOCYNNAU I WELD CYMRU v DE AFFRICA

CYNNWYS Y WOBR: Dau docyn i weld gêm rygbi Cymru V De Affrica Yn Stadiwm y Principality, 15:10, dydd Sadwrn y 29ain o Dachwedd, 2025.

I gystadlu, rhaid:

Tecstio SADWRN RYGBI gyda eich enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00, hanner dydd, 27ain o Dachwedd, 2025 - pob lwc!


CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL –TOCYNNAU I WELD CYMRU v DE AFFRICA

CYNNWYS Y WOBR: Dau docyn i weld gêm rygbi Cymru V De Affrica Yn Stadiwm y Principality, 15:10, dydd Sadwrn y 29ain o Dachwedd, 2025.

I gystadlu, rhaid:

Tecstio SADWRN RYGBI gyda eich enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00, hanner dydd, 27ain o Dachwedd, 2025.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar raglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn, 29ain o Dachwedd, 2025. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd fel tocyn digodol os yw'r rhiant, gwarchodwr yn hapus i'w derbyn. 

Er mwyn trosglwyddo tocynnau digidol i’r enillydd, mi fydd angen ‘Smartphone’ ac yr app ‘Principality Stadium Ticketing’ wedi ei lawr lwytho i’r ffôn. Bydd y tocyn yn cael ei anfon i’r app ar ôl derbyn y manylion perthnasol gan yr enillydd. 

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni i fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y tocyn. 

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

 

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.