S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dyfeisiau a setiau clyfar

YouView

Mae ap S4C Clic ar gael ar YouView yng Nghymru ac yn ymddangos ar drydydd slot y faner. Ar gyfer gweddill y DU, mae ap S4C Clic ar gael ar y dudalen apiau ac yn gallu cael ei lansio heb ei lawrlwytho.

Freeview Play

Mae ap S4C Clic ar gael ar Freeview Play heb orfod lawrlwytho. Yng Nghymru, mae'r ap yn ymddangos ar bumed slot y faner. Gyda'r ap ar gael yn Lloegr a'r Alban hefyd. Y nawfed safle yn yr ardal allgraidd i Loegr, ac yn wythfed ar gyfer yr Alban.

Amazon Fire TV

Mae ap S4C Clic ar gael ar ddyfeisiau Amazon Fire TV trwy'r farchnad apiau.

Cofiwch: Nid yw ap S4C Clic wedi ei lawrlwytho ar unrhyw ddyfeisiau Amazon Fire TV yn y DU ar hyn o bryd, ac felly bydd angen ei lawrlwytho.

Xbox

Mae ap S4C Clic ar gael ar gonsolau Xbox One S|X and Xbox Series S|X trwy'r farchnad apiau.

Cofiwch: Nid yw ap S4C Clic wedi ei lawrlwytho ar unrhyw gonsolau Xbox yn y DU ar hyn o bryd, ac felly bydd angen ei lawrlwytho.

Chromecast

Mae apiau S4C Clic (fersiynau Android ac iOS) yn caniatáu ichi gastio cynnwys S4C i'ch dyfais Chromecast. Er mwyn darganfod sut i gastio cynnwys S4C, ewch i wefan Google Chromecast.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?