Miwsig

Miwsig

Miwsig

Diolch am gefnogi'r gig rhithiol Cymraeg cyntaf erioed gyda Dom a Lloyd.

  • Dom a Lloyd | Gig Rhithiol | 2025 | Miwsig

    Diolch am fynychu!

    Ein gig rhithiol cynta' gyda Dom a Lloyd

    Mae'r gig wedi gorffen.

    • Gig Dom a Lloyd | 2025 | Miwsig

      Llwyfan cerddoriaeth newydd

      Miwsig

      Mae Miwsig yn gartref deinamig ar gyfer cerddoriaeth o Gymru, gan rannu a dathlu talent cerddorol o bob cwr o’r wlad. 

      Gig Dom a Lloyd | Gig Rhithiol | 9 Awst 2025 | Miwsig

      Telerau ac Amodau

      Awst 2025

      1. Bydd eich avatar (a’r enw y rhoddwch arno, ac unrhyw weithred a wneir gan eich avatar) i’w weld gan wylwyr a defnyddwyr eraill yn y gig rhithiol.
      2. Rhaid i bob unigolyn sydd am gymryd rhan (Cyfranogwr) yn y digwyddiad gig (y Digwyddiad) fod yn 13 oed neu’n hŷn. Ceidw S4C a/neu Condense Ltd (y Cwmni) yr hawl i ofyn am brawf o oedran unrhyw Gyfranogwr.
      3. Bydd angen i Gyfranogwyr fod yn breswylwyr y DU.
      4. Gan bydd modd gweld enw, delwedd a gweithredoedd avatar Cyfranogwyr, rhaid i bob Cyfranogwr sicrhau na fydd yn defnyddio iaith ag ystumiau sydd o bosib yn sarhaus, anweddus neu’n dramgwyddus
      5. S4C bydd berchen ar gyfraniad y Cyfranogwr yn llwyr ac mae’r cyfranogwr yn rhoi’n ddiamod ac yn ddi-alw’n ôl pob caniatâd a chydsyniad (boed o dan y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau 1988 neu fel arall) sydd eu hangen ar S4C er mwyn defnyddio ac ymelwa ar gyfraniad y Cyfranogwr drwy unrhyw ddull a modd.
      Stondin | Gig Rhithiol Dom a Lloyd | 2025 | Miwsig

      Preifatrwydd a diogelu data:

      1. Bydd S4C a/neu y Cwmni ond yn defnyddio’r data personol a gasglwyd at ddibenion y Digwyddiad.
      2. Cliciwch yma am fanylion polisi diogelu data a phreifatrwydd S4C, ac yma am bolisi preifatrwydd Condense.
      3. Gall Gyfranogwyr ddileu eu data personol ar unrhyw adeg drwy wneud cais i S4C a/neu’r Cwmni. Mae hyn yn unol â rheoliadau GDPR.
      4. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i wahardd unrhyw gyfranogwr os bydd ganddynt sail rhesymol dros gredu bod y Cyfranogwr wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
      Enghraifft | Gig Rhithiol | S4C Miwsig