S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wefan hon

Telerau ac amodau cystadleuaeth

1. Ar gyfer pob cystadleuaeth a gynhelir led led Gwasanaethau S4C (pob un yn Gystadleuaeth), mae'r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol:

  • Telerau Cystadlaethau Cyffredinol S4C yma
  • Telerau ac Amodau Gwefan S4C
  • Telerau penodol cystadleuaeth a osodir mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo a marchnata ar gyfer cystadleuaeth ("Hysbysiad y Gystadleuaeth")

(cyfeirir at yr uchod i gyd fel y "Telerau"). Wrth gymryd rhan mewn Cystadleuaeth rydych yn cytuno i fod yn rhwym i'r holl Delerau perthnasol.

2. Os ceir gwahaniaethau rhwng Telerau Cystadlaethau Cyffredinol S4C a Hysbysiad y Gystadleuaeth, telerau Hysbysiad y Gystadleuaeth fydd yn cael blaenoriaeth.

3. Oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, mae Cystadlaethau'n cael eu trefnu a'u hyrwyddo gan S4C o Ganolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ ("S4C") a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am Gystadlaethau at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

4. Mae S4C yn cadw'r hawl i newid neu ddiwygio Cystadlaethau neu'r Telerau (gan gynnwys gofynion cymhwysedd) yn ôl ei disgresiwn ei hun gyda neu heb rybudd ymlaen llaw (i) yn achos unrhyw ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth resymol S4C (ii) i sicrhau bod Cystadlaethau'n cael eu cynnal yn deg a (iii) i sicrhau cydymffurfiaeth â'r deddfau, y rheoliadau a'r canllawiau perthnasol. Rhoddir gwybod am unrhyw ddiddymiad neu newidiadau yn Hysbysiad y Gystadleuaeth berthnasol.

5. Yn achos unrhyw anghydfod ynghylch y Telerau, y wobr, y canlyniad neu unrhyw fater arall yn ymwneud â Chystadleuaeth, bydd penderfyniad S4C yn derfynol ac ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth.

6. Oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, mae Cystadlaethau'n agored i holl drigolion y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio staff S4C ac unrhyw unigolion a chwmnïau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gystadleuaeth a'u teuluoedd agos.

7. Gellir amlinellu gofynion cymhwysedd ychwanegol yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

8. Drwy gymryd rhan mewn Cystadleuaeth rydych yn cytuno, yn cadarnhau ac yn gwarantu:

  1. bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych i S4C neu i'r cwmni cynhyrchu sy'n cynnal Cystadleuaeth mewn cysylltiad ag un o raglenni S4C yn gywir, wedi'i diweddaru ac yn gyflawn, a'ch bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y Gystadleuaeth;
  2. os enillwch y Gystadleuaeth, bod S4C yn gallu defnyddio eich enw a'ch llun at ddibenion cyhoeddusrwydd;
  3. y gall S4C (ac unrhyw drydydd parti a awdurdodir gan S4C) ddefnyddio'r cais ledled ei Gwasanaethau ac ar unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wefannau trydydd parti, cyfryngau symudol, teledu a/neu radio). I'r diben hwn, rydych drwy hyn yn rhoi i S4C (a thrydydd partïon a awdurdodir gan S4C) drwydded anghyfyngedig, fyd-eang, ddiymdroi, ddi-freindal (am gyfnod llawn unrhyw hawliau yn y cais) yn y cais i ddefnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, copïo, gwneud gweithiau deilliadol neu bodlediadau o, golygu, newid, storio, ailfformatio, defnyddio yn rhan o unrhyw ymgyrch hysbysebu neu noddi, gwerthu ac isdrwyddedu y cais;
  4. bod eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych yn bersonol i chi;
  5. na fydd eich cais a'r holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno a/neu yn ei dosbarthu i S4C yn torri hawliau eiddo deallusol, hawliau preifatrwydd nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, ac na fyddant yn cynnwys unrhyw beth sy'n enllibus, difenwol, anllad, anweddus, yn peri aflonyddwch neu'n fygythiol; a
  6. bod gennych ganiatâd i ddefnyddio neu ddangos unrhyw bobl, cynnwys neu ddeunydd arall sydd wedi'i gynnwys o fewn eich cais.

9. Mae S4C yn cadw'r hawl i wirio cymhwysedd pob ymgeisydd i gymryd rhan mewn Cystadleuaeth, gan gynnwys yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran yr enillydd. Gall S4C wahardd ymgeisydd sy'n gwrthod neu nad ydyw'n darparu gwybodaeth o'r fath pan ofynnir amdani a gall wahardd unrhyw ymgeisydd os oes ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r Telerau.

10. Pan fydd Cystadleuaeth ar agor i bob oedran, rhaid i unigolion dan 16 fod wedi cael caniatâd rhiant i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth ac i dderbyn y wobr. Mae S4C yn cadw'r hawl i wirio bod caniatâd o'r fath wedi'i roi cyn anfon y wobr at yr enillydd.

11. Os bydd enillydd Cystadleuaeth wedi hynny'n cael ei wahardd o Gystadleuaeth am unrhyw reswm, gall S4C, yn ôl ei disgresiwn ei hun, ddyfarnu'r wobr i un a ddaeth yn agos at y brig, wedi'i ddethol yn unol â meini prawf y Gystadleuaeth.

12. Dim ond unwaith y gallwch ymgeisio mewn Cystadleuaeth, oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Pan fydd yn amlwg fod unigolyn wedi ymgeisio nifer o weithiau mewn Cystadleuaeth ac mai dim ond un cais a ganiateir dan y Telerau, dim ond un o geisiadau'r ymgeisydd a gaiff ei gyfrif yn y Gystadleuaeth.

13. Pan fydd S4C yn canfod neu fod ganddi sail resymol dros amau bod ymgeisydd wedi defnyddio unrhyw feddalwedd neu broses awtomataidd naill ai i ateb cwestiynau, gwneud cais i'r Gystadleuaeth neu wneud nifer fawr o geisiadau, gall S4C eithrio ceisiadau o'r fath a gwahardd yr ymgeisydd o'r Gystadleuaeth.

14. Rhaid derbyn yr holl geisiadau trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy unrhyw ddull arall yn cael eu derbyn.

15. Rhoddir manylion unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â dulliau ymgeisio'r Gystadleuaeth yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Ni fydd costau cyffredinol cyswllt rhyngrwyd, postio a darparwr gwasanaeth teledu yn cael eu nodi yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

16. Ni ellir derbyn prawf o bostio, galwad ffôn, postio ar y we nac e-bost fel prawf o ddanfon. Nid yw S4C yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall, hepgoriad, toriad, dilead, nam nac oedi yn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddiwyd gan ymgeiswyr, ceisiadau nad ydynt wedi'u derbyn cyn y dyddiad cau nac am ladrad, dinistriad, newid neu fynediad anawdurdodedig i geisiadau, neu geisiadau a gollwyd, a niweidiwyd neu a oedwyd yn sgil gweithrediadau gweinydd, materion technegol, feirws, nam cyfrifiadurol neu achosion eraill y tu hwnt i reolaeth S4C.

17. Nid yw S4C yn derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu na dychwelyd unrhyw geisiadau. Dylech sicrhau eich bod yn cadw copi o'ch cais ar gyfer eich cofnodion eich hun.

18. Os yw'r broses o ddewis cais buddugol yn agored i ddehongliad goddrychol, penodir beirniad annibynnol, neu banel sy'n cynnwys un aelod annibynnol. Yn y naill achos a'r llall, bydd y beirniad neu'r aelod o'r panel yn amlwg yn annibynnol o S4C, unrhyw ganolwyr i'r Gystadleuaeth a'r gronfa o ymgeiswyr y dewisir yr enillydd yn y pen draw ohoni. Bydd y rhai a benodir i weithredu fel beirniaid neu aelodau o banel yn gymwys i feirniadu'r Gystadleuaeth a darperir eu henwau llawn yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Ym mhob mater, bydd penderfyniad y beirniad/beirniaid neu'r panel yn derfynol ac ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth neu drafodaeth.

19. Bydd enillwyr gwobrau yn cael eu hysbysu gan ddefnyddio'r dull ac o fewn yr amser a nodwyd yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

20. Bydd S4C yn trefnu gyda'r enillydd i'r enillydd dderbyn y wobr. Fel rheol, anfonir gwobrau trwy'r post. Bydd prawf o bostio gan S4C yn gyfystyr â phrawf o ddanfon.

21. Os na ellir gwneud trefniadau i ddanfon neu gasglu'r wobr wedi ymdrechion rhesymol gan S4C i wneud hynny, mae gan S4C yr hawl i roi'r wobr i un ddaeth yn agos at y brig neu i ddefnyddio'r wobr mewn unrhyw hyrwyddiad yn y dyfodol yn ôl ei disgresiwn absoliwt ei hun.

22. Mae S4C yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw'r enillydd a'r sir y mae'n byw ynddi ar wefan S4C am 21 diwrnod. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael yn dilyn y dyddiad cau drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02) neu drwy ysgrifennu at S4C, Canolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ, gan nodi'r Gystadleuaeth yr ydych yn holi yn ei chylch a chynnwys amlen â'ch cyfeiriad a stamp arni.

23. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo gwobrau ac nid oes modd dewis arian yn eu lle. Mae S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr neu unrhyw ran ohoni am wobr o werth ariannol cyfatebol neu fwy ac mae penderfyniad S4C yn hyn o beth yn derfynol.

24. Pan fyddwch yn darparu cyfeiriad gyda'ch cais i Gystadleuaeth, defnyddir y cyfeiriad hwnnw i anfon unrhyw wobr iddo.

25. Yr enillydd yn unig sy'n gyfrifol am yr holl drethi, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario ac unrhyw gostau a threuliau eraill (gan gynnwys bwyd a threuliau personol), oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

26. Nid yw S4C, oni nodir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, yn hawlio unrhyw hawliau perchnogaeth ar eich cais. O'r herwydd, rydych yn cadw perchnogaeth o'ch cais a gallwch ei ddefnyddio fel y mynnwch. Bydd S4C yn gallu defnyddio eich cais fel yr amlinellir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Os yw S4C yn bwriadu cymryd perchnogaeth o'ch cais, manylir ynghylch hyn yn Hysbysiad y Gystadleuaeth a gallwch benderfynu wedyn a ydych am wneud cais i'r Gystadleuaeth ai peidio.

27. Nid yw S4C yn gwarantu defnyddio unrhyw gais. Gall S4C hefyd, dan amgylchiadau addas, ac yn ôl ei disgresiwn ei hun, wrthod, golygu, dileu neu analluogi mynediad i geisiadau y mae'n ystyried eu bod, o bosibl, yn broblematig yn gyfreithiol neu fel arall.

28. Mae S4C yn eithrio unrhyw atebolrwydd i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siom a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd yn sgil ei gais/chais ar gyfer y Gystadleuaeth, neu a ddaw i ran yr enillydd yn sgil y ffaith ei fod/ei bod wedi derbyn y wobr.

29. Nid yw S4C yn gyfrifol am unrhyw faterion technegol yn ymwneud ag unrhyw rwydwaith telegyfathrebu neu ryngrwyd (gan gynnwys mewn perthynas â chyflymder neu led band), gan gynnwys unrhyw anaf neu ddifrod i ddyfais ymgeisydd neu ddyfais unrhyw berson arall yn ymwneud â neu yn sgil cymryd rhan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd mewn Cystadleuaeth.

30. Lle cynhelir cystadlaethau gan S4C trwy ddefnyddio Facebook a/neu Instagram, mae ymgeiswyr yn cydnabod nad yw'r gystadleuaeth wedi ei noddi, hardystio neu ei gweinyddu gan neu'n gysylltiedig â Facebook a/neu Instagram mewn unrhyw ffordd ac mae ymgeiswyr yn cadarnhau eu bod yn rhyddhau Facebook a/neu Instagram rhag unrhyw atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad â nhw'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

31. Oni chytunwyd fel arall, dim ond at ddiben gweinyddu'r Gystadleuaeth y bydd S4C yn defnyddio'r data personol a ddarparwyd wrth wneud cais i'r Gystadleuaeth. Bydd unrhyw ddata personol yn ymwneud ag ymgeiswyr yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data presennol y DU yn unig. Gweler Polisi Preifatrwydd S4C (www.s4c.cymru/c_privacypolicy.shtml) a Pholisi Diogelu Data S4C (www.s4c.cymru/media/media_assets/Polisi_Diogelu_Data.pdf) am ragor o fanylion.

32. Gall S4C gadw data yn ymwneud ag ymgeiswyr am gyfnod rhesymol wedi i'r Gystadleuaeth gau er mwyn cynorthwyo S4C i ymdrin ag unrhyw ymholiadau.

33. Mae'r holl Gystadlaethau a'r Telerau yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuol llysoedd Cymru a Lloegr.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?