S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ysgol Cyw

Help i Rieni gyda rhaglenni addysgol Cyw

Os ydych chi adre gyda'r plant ac yn chwilio am gynnwys sy'n diddori ac yn addysgu, gallwn ni yn S4C eich helpu.

Mae nifer fawr o gyfresi teledu Cyw a chynnwys digidol fel apiau a gemau yn cynnig cyfle i blant oed meithrin a chyfnod sylfaen ddysgu wrth chwarae. Dewch i ddysgu yn Ysgol Cyw!

Ysgol Cyw

Dyma restr o'r cyfresi dysgu wrth chwarae sydd ar gael ar-alw ar wefan Cyw ac ar S4C Clic.

  • Amser Maith, Maith Yn Ôl

    Amser Maith, Maith Yn Ôl

    Newydd

    Dwy gyfres ddrama sy'n cyflwyno hanes i blant. Mae'r rhaglenni yn straeon am fywydau plant yn ystod oes y Celtiaid, y Tuduriaid, Fictoria a'r Rhyfel Mawr. Cyfres sydd wedi ei chreu gyda chyngor haneswyr ar gyfer plant cyfnod sylfaen a hyd at 8 oed.

  • Anifeiliaid Bach Y Byd

    Anifeiliaid Bach Y Byd

    Newydd

    Cyfres sy'n cyflwyno anifeiliaid bach y byd i blant bach Cymru. Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd.

  • Bing

    Bing

    Newydd

    Animeiddiadau i hybu ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant meithrin.

  • Blero yn Mynd i Ocido

    Blero yn Mynd i Ocido

    Newydd

    Cyfres animeiddiedig am gymeriad chwilfrydig o'r enw Blero sydd yn cyflwyno gwyddoniaeth i blant.

  • Blociau Rhif

    Blociau Rhif

    Newydd

    Mae gan pob rhif gymeriad arbennig. Mae Blociau Rhif yn gyfres addysgol sy'n cyflwyno rhifedd i blant Sylfaen ac yn cael hwyl wrth gyfri.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Newydd

    Detholiad o ganeuon a hwiangerddi hen a newydd i blant ddysgu a chyd-ganu. Mae'r gyfres gyfan hefyd ar gael ar You Tube Caru Canu.

  • Cyw a’i ffrindiau

    Cyw a’i ffrindiau

    Newydd

    Cyfres sy'n dangos sut mae Cyw a'i ffrindiau yn chwarae, darganfod a gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Mae pob pennod yn cyflwyno profiad newydd y mae'n rhaid i Cyw a'i ffrindiau ei wynebu a'i ddatrys ac yn brofiadau y bydd y gynulleidfa ifanc yn uniaethu ag ef.

  • Deian a Loli

    Deian a Loli

    Newydd

    Cyfle i gamu i mewn i fyd hud a lledrith gyda'r efeilliaid direidus a'u pwerau hudol.

  • Dwylo’r Enfys

    Dwylo’r Enfys

    Newydd

    Cwrdd a phlant gwahanol ym mhob rhaglen a chyflwyno 'makaton', sef iaith arwyddo syml i blant bach.

  • Jamborî

    Jamborî

    Newydd

    Celf a cherddoriaeth wedi ei anelu at y plant ieuengaf. Amrywiaeth o eitemau byr sy'n cyfuno delweddau gweledol a cherddoriaeth amrywiol sy'n swyno plant

  • Jen a Jim Pob Dim

    Jen a Jim Pob Dim

    Rhaglenni addysgol i blant cyfnod Sylfaen sy'n ymdrîn â llythrennedd.

  • Jen a Jim a’r Cywiadur

    Jen a Jim a’r Cywiadur

    Rhaglenni rhifedd i blant cyfnod Sylfaen. Mae cyfresi cyfan Jen a Jim ar Hwb Addysg. Mae cyfres Jen a Jim ar gael trwy hwb dysgu Llywodraeth Cymru ac wedi cael eu creu ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm i blant cyfnod Sylfaen.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Sh! Mae'r haul yn mynd i'w wely ac mae'n amser i ni gael stori fach cyn cysgu.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Newydd

    Mae'r pyped bywiog Oli Wyn wrth ei fodd gyda pheiriannau a cherbydau mawr o bob math: trenau, loriau llwch, jac codi baw. Cyfres i bawb sydd hefyd wedi ei datblygu yn arbennig ar gyfer plant ag awtistiaeth.

  • Sali Mali

    Sali Mali

    Newydd

    Cyfres newydd sbon yn dilyn un o hoff gymeriadau llyfrau plant Cymru.

  • Sbarc

    Sbarc

    Fformat hwyliog gyda'r cyflwynydd Tudur Phillips sy'n ymdrin a gwyddoniaeth mewn ffordd sy'n hwyl ac yn ddoniol.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Newydd

    Cyfres arbennig sy'n helpu plant anghofio am fwrlwm y byd a chymryd munud i ymlacio a meddwl. Animeiddiadau sy'n cyflwyno meddylgarwch.

  • Sigldigwt

    Sigldigwt

    Newydd

    Dewch i westy Sigldigwt i weld sut mae gofalu am anifeiliaid anwes o bob math.

  • Siôn y Chef

    Siôn y Chef

    Newydd

    Mae Sion y Chef yn cael hwyl wrth goginio prydau bwyd i'w gwsmeriaid. Adloniant animeiddiedig i blant sy'n cyflwyno bwydydd a choginio.

  • Straeon Tŷ Pen

    Straeon Tŷ Pen

    Straeon gwreiddiol yn cael eu hadrodd gan wynebau cyfarwydd.

  • Timpo

    Timpo

    Newydd

    Mae'r criw bywiog yma o ffrindiau wrth eu boddau yn datrys problemau a gweithio fel tîm.

  • Ysbyty Cyw Bach

    Ysbyty Cyw Bach

    Cyfres sy'n dangos beth sy'n digwydd pan chi'n mynd i'r ysbyty.

Dewch i ymlacio gyda Shwshaswyn

Dyma ystod o weithgareddau lles a meddwlgarwch Shwshaswyn sy'n cynnwys ymarferion bach gofalgar a chrefftau syml sy'n helpu'r plantos bach i ymlacio a chymryd seibiant.

Adnoddau Amser Maith Maith yn Ôl

Mae S4C mewn partneriaeth efo Llywodraeth Cymru, Boom Plant, Canolfan Peniarth a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu pecyn addysg i gyd-fynd efo'r gyfres Amser Maith, Maith yn Ôl. Mae'r adnoddau sy'n cyd-fynd efo'r penodau ar S4C Clic ar gael yma ar Ysgol Cyw.

Mae'r pecyn cyfan sydd yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol a thaflenni gwaith a gweddill rhaglenni Amser Maith, Maith yn Ôl ar blatfform Hwb Llywodraeth Cymru

Taflenni gwaith Cyw

Ap newydd yn mynd â phlant ar Antur gyda Cyw

Un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ap oedd Megan Alaw o Gaerfyrddin, sy'n bum mlwydd oed. "Y peth rwy'n hoffi orau am Antur Cyw yw gwneud geiriau ar drên Jangl a dyfalu beth yw'r llythrennau coll. Rwy' wedi cael nhw i gyd yn gywir hyd yn hyn, ond mae'n mynd yn fwy anodd bob tro felly rwy' am ddal i chwarae. Rwy'n edrych mlaen i ddweud wrth fy ffrindiau amdano pan fydda i nôl yn yr ysgol."

  • Ap Antur Cyw

    Ap Antur Cyw

    Lle i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl. Wy ti'n gallu helpu Cyw i gwblhau'r GEIRIAU yn y ffair? Wyt ti'n gallu CYFRI ar y fferm? Beth am daith ar y tren SILLAFU? Beth am gyfansoddi CERDDORIAETH? Beth am fod yn greadigol gyda LLIWIAU yn yr ardal celf? Neu, wyt ti'n gallu paru'r SIAPIAU'R picnic?

    Cer amdani!

Apiau

Cyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd. Cynnwys dwyieithog ac yn addas i unrhyw aelwyd.

Dysgu gyda Stwnsh

Dewch i ddysgu gyda Stwnsh! Mae cyfresi adloniant ffeithiol sy'n cyflwyno gwybodaeth ac yn llawn hwyl a sbri.

Mwy o adnoddau defnyddiol

  • BBC

    BBC

    Am fwy o adnoddau defnyddiol, mae 'na gynnwys rhyngweithiol hwyliog ac addysgiadol ar gael ar wefan BBC Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?