S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwb rhyngwladol i bêl-droed yng Nghymru, gyda gemau Sgorio ar gael i'r byd ar wefan S4C

18 Awst 2015

 Mi fydd pêl-droed o Gymru ar gael i gefnogwyr ar draws y byd y tymor hwn, wrth i S4C gyhoeddi y bydd gemau Sgorio ar brynhawniau Sadwrn yn cael eu darparu'n rhyngwladol ar wasanaeth ar alw s4c.cymru

Bydd y gemau sy'n cael sylw gan Sgorio bob prynhawn Sadwrn – yn cynnwys Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Cwpan Cymru JD a rownd derfynol Cwpan Word - yn cael eu llwytho ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C yn dilyn y chwiban ola', fydd yn caniatáu i gefnogwyr ar draws y byd hefyd wylio'r gêm yn llawn, ar alw, am 35 diwrnod.

Mae'n newyddion da i gefnogwyr sy'n byw dramor, a hefyd i'r dilynwyr yn y DU fydd yn teithio dramor yn ystod y tymor, am y bydd modd iddyn nhw ddal fyny efo'r gemau yn llawn ar-lein.

Mae'r datblygiad newydd yn atgyfnerthu ymrwymiad hir dymor S4C i gefnogi'r gynghrair bêl-droed ddomestig yng Nghymru. Fe wnaed y cyhoeddiad yn ystod digwyddiad i lansio Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mawrth 18 Awst).

Dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, y bydd y darllediadau rhyngwladol yn hwb sylweddol i godi proffil clybiau'r gynghrair; "Mae hyn yn newyddion da iawn i bêl-droed yng Nghymru, fydd yn ehangu apêl y gynghrair cenedlaethol ar draws y byd. Rydym yn ddiolchgar i S4C a thîm Sgorio yn Rondo Media am eu cefnogaeth barhaol, ac mi fydd dangos y gemau yn rhyngwladol yn siŵr o godi proffil y gêm, y cynghrair â'r timau yng Nghymru."

Bydd Sgorio yn dychwelyd ar 22 Awst, yn y slot blaenllaw newydd am 4.45 brynhawniau Sadwrn. Mae gêm gynta'r tymor o Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn mynd â ni i gartref MBi Llandudno, y newydd ddyfodiaid, wrth iddyn nhw groesawu Aberystwyth i Barc MBi Maesdu.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C; "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau tymor cyffrous arall o bêl-droed ar S4C gyda chyfres newydd o Sgorio yn ei slot newydd ar brynhawn Sadwrn. Mae'n wych hefyd gallu ehangu'r gwasanaeth eleni i gynnwys y cefnogwyr y tu allan i’r DU, ar gyfer y cefnogwyr ffyddlon tramor, a denu diddordeb newydd hefyd."

Mae darparu gemau Sgorio yn rhyngwladol yn rhan o gynllun ehangach S4C i ddarparu mwy o gynnwys ar gyfer gwylwyr y tu allan i'r DU.

Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, "Rydym yn falch iawn o allu cynnig gemau byw Sgorio ar alw y tu allan i'r DU ar wefan S4C. Mae'r ddarpariaeth yn rhan o gynllun ehangach i gynyddu'n sylweddol y cynnwys sydd ar gael yn rhyngwladol dros gyfnod penodol cynllun peilot. Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor am y cynlluniau cyn hir."

I dderbyn gwybodaeth am gynnwys S4C sydd ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol. I danysgrifio ewch i wefan S4C Rhyngwladol

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?