Darlledwyd y gyfres Noson Lawen gyntaf ar S4C yn 1982, ac ers hynny, mae wedi profi i fod yn gyson boblogaidd gyda gwylwyr o bob oed. Gallwch ddisgrifio'r gymysgedd o eitemau wythnosol, yn cynnwys cantorion, corau, cerddorion, comediwyr a sgetsys yn sioe adloniant draddodiadol. Gan dalu teyrnged i'w gwreiddiau gwledig yng Nghymru'r gorffennol, mi roedd cynulleidfaoedd y Noson Lawen ar y dechrau yn eistedd ar bêls gwair, gyda'r perfformwyr wedi eu gosod ar drelar fferm.
Dros y blynyddoedd, mae golwg a ffurf y gyfres wedi newid. Mae'r gynulleidfa heddiw yn eistedd ar seddau cyffyrddus, mae'r setiau yn gyfoes ond mae calon y gyfres yn parhau i guro'n gadarn. Mae'r gyfres yn cael ei recordio mewn canolfannau led-led Cymru ac mae wedi cynnig llwyfan cynnar i rai o dalentau mwyaf Cymru gan gynnwys y cantorion Bryn Terfel, Connie Fisher a Katherine Jenkins.
Lloyd Macey ar lwyfan Noson Lawen Cabare yn perfformio ei sengl 'Dyma'r Unig Siawns'.
Y Difas - Iestyn Arwel, Meilir Rhys ac Elain Llwyd yn canu straen am ei sefyllfa byw nhw yn ystod y cyfnod clo.
Llio Evans yn camu i fyd y Prima Donna gyda'i pherfformiad ar y Noson Lawen.
Lleden gyda medli o ganeuon Cymraeg poblogaidd ar Noson Lawen - 'Methu dal y pwysau', 'Eisteddfod' a 'Gwlad y Rasda Gwyn'.
Y Difas - Iestyn Arwel, Meilir Rhys ac Elain Llwyd yn canu straen am ei sefyllfa byw nhw yn ystod y cyfnod clo.
Datganiad pwerus a theimladwy Ffion Emyr ar Noson Lawen o drefniant 50 Shêds o Lleucu Llwyd o 'Gorwedd gyda'i Nerth'.
Llond llwyfan o artistiaid a fu'n rhan o Noson Lawen Cabaret yn ymuno i berfformio trefniant 50 Shêds o Lleucu Llwyd o 'Anfonaf Angel' - y glasur gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.