Cat Southall sy'n perfformio 'Ti sydd ar fai' - cân oddi ar ei halbwm newydd ar lwyfan Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Criw bach sy'n aelodau o fand pres y Cory sy'n perfformio medli o 'Mae hen wlad fy nhadau', 'Calon lan', 'Aberystwyth' a 'Gwŷr Harlech' ar Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Kieran Bailey, yr actor, y cerddor, a'r cyfansoddwr sy'n perfformio ei gân wreiddiol, 'Un nos' ar lwyfan Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Sara Rees-Roberts, y gantores a'r gyfansoddwraig ifanc o Donyrefail sy'n perfformio ei chân wreiddiol 'Gwella' fel rhan o Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Y grŵp Derw sy'n perfformio eu sengl boblogaidd 'Mecsico' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen o'r brifddinas.
Gyda chymorth Rhys Taylor a band y Noson Lawen, Côrdydd sy'n cloi Noson Lawen arbennig o'r brifddinas gyda eu trefniant arbennig nhw o 'Gorwedd gyda'i nerth'.
Catrin Herbert, y gantores a'r gyfansoddwraig sy'n wreiddiol o Creigiau ger Caerdydd sy'n perfformio ei chân wreiddiol 'Cerrynt' ar lwyfan y Noson Lawen.
Dadleoli, grŵp newydd o'r brifddinas sy'n perfformio eu cân wreiddiol 'Diwrnodau Haf' ar Noson Lawen.
Dionne Bennett sy'n perfformio cân a gyd-gyfansoddodd gyda Jonathan Mark Goode sef 'Barod' ar lwyfan Noson Lawen Caerdydd.
Llinos Haf Jones, y mezzo-soprano o Benarth sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Adre' gan Caryl Parry Jones ar lwyfan Noson Lawen Caerdydd.
Anthony Stuart Lloyd a Chôrdydd sy'n diddanu cynulleidfa Noson Lawen Caerdydd gyda pherfformiad pwerus o 'O Gymru' gan Rhys Jones a Leslie Harries.
VRï sy'n perfformio eu trefniant nhw o 'Aberhonddu' fel rhan o Noson Lawen Dyffryn Ogwen.
Criw hwyliog Hogia'r Bonc sy'n perfformio 'Hiraeth am Fethesda i gynulleidfa Noson Lawen Dyffryn Ogwen.
Y grŵp poblogaidd o Ddyffryn Ogwen, Celt sy'n perfformio 'Oes rhaid i'r wers barhau?' ar lwyfan y Noson Lawen.
Bryn Bach sy'n perfformio un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Tŷ Bob' ar lwyfan y Noson Lawen.
Gwenno a Gruffudd, brawd a chwaer o Ddyffryn Ogwen sy'n perfformio 'Y lôn fach odro' ar lwyfan y Noson Lawen.
Beth Celyn sy'n ymuno efo VRï i berfformio 'Cob Malltraeth' ar lwyfan Noson Lawen Dyffryn Ogwen.
Welsh Whisperer sy'n diddanu cynulleidfa Noson Lawen Dyffryn Ogwen drwy ganu un o ganeuon enwog Hogia Llandegai, 'Defaid William Morgan'.
Neil Williams a Geth Tomos sy'n perfformio 'Darn ohonof i' - cân gafodd ei chyfansoddi i eiriau gwych Meirion MacIntyre Huws.
Celt sy'n perfformio un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Dros foroedd gwyllt' fel rhan o Noson Lawen Dyffryn Ogwen.
Y grŵp gwerin o ardal Wrecsam, The Trials of Cato sy'n perfformio eu cân wreiddiol, 'Haf' ar lwyfan Noson Lawen Bryniau Clwyd.
Siôn Eilir ac Elis Jones sy'n perfformio'r ddeuawd enwog, 'Y Pysgotwyr Perl' gan Georges Bizet.
Gyda chymorth band y Noson Lawen, Gruff Roberts ar y drymiau a Berwyn Jones ar y trwmped, y ddau frawd o Lansannan, Morgan a Jacob Elwy sy'n perfformio 'Zion'.
Megan Lee, y gantores a'r gyfansoddwraig ifanc o Goedpoeth ger Wrecsam sy'n perfformio ei chân wreiddiol 'Y nawr' gyda band y Noson Lawen.
Y canwr, actor a'r cyfarwyddwr o Rosllannerchrugog, Daniel Lloyd sydd nôl ar lwyfan y Noson Lawen i berfformio 'Tro ar fyd'.
Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd sy'n troedio llwyfan y Noson Lawen i berfformio 'Hiraeth yr hwyrnos' gan Alwyn Humphreys.
The Trials of Cato sy'n perfformio geiriau Cynan y bardd am un o bentrefi mwyaf swynol Pen Llŷn sef 'Aberdaron'.
Rebecca Trehearn sy'n ymuno gyda Daniel Lloyd i gyd-ganu 'Werth y byd' ar lwyfan Noson Lawen Bryniau Clwyd.
Y grŵp Prion sef Arwel Lloyd a Celyn Cartwright sy'n perfformio 'Dorelia' - cân sydd wedi'i hysbrydoli gan waith celf Gwen John, 'Dorelia in a black dress'.
Yr actor a'r canwr sy'n wreiddiol o Gwm Gwendraeth, Dafydd Rhys Evans sy'n perfformio'i gân wreiddiol 'Dyddie da' ar lwyfan Noson Lawen Bae Caerfyrddin.