Amrywiaeth a Chynhwysiant

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pobl a Phartneriaid

Mae S4C yn fwy na sianel deledu – mae'n asgwrn cefn i ddiwylliant cyfoes Cymru ac yn rym creadigol sy'n bywiogi'r iaith Gymraeg. Tu hwnt i'n gwaith i greu cynnwys gwych rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru er mwyn meithrin talent, cefnogi cymunedau a chroesawu lleisiau Cymraeg o bob cefndir. Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am y cyfleoedd gyrfa rydym yn eu cefnogi - camau cyntaf, camau ymlaen a datblygiad proffesiynol parhaus; rhai o'r partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw er mwyn gwella hygyrchedd a thegwch yn ein diwydiant; a rhai o'r digwyddiadau diwylliannol rydym ni'n eu noddi.

Hyfforddiant

Mae S4C yn cefnogi nifer o gyfleoedd hyfforddi gan bartneriaid allanol i sicrhau bod gan bawb y cyfle i gamu i’r byd cynhyrchu teledu a datblygu sgiliau hanfodol wrth i ni drawsnewid i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf.

  • Logo Comedy Lab Cymru, sy'n cynnwys logos S4C, Channel 4 a Little Wander

    Comedy Lab Cymru

    Mae S4C a Channel 4 yn partneru gyda chwmni Little Wander ar y  cynllun hwn sy'n cynnig cyfleoedd datblygu a mentora i ysgrifenwyr a pherfformwyr comedi newydd.

    • Cynghrair Sgrin Cymru

      Cynghrair Sgrin Cymru

      Pwrpas Cynghrair Sgrin Cymru yw datblygu gweithlu sgrin y dyfodol, ac mae S4C yn falch o gefnogi eu gwaith gydag ysgolion ledled Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

      • Logo Hansh Dim Sbin

        Hansh - Dim Sbin

        Rhaglen hyfforddi newyddiaduron y dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg yw Hansh Dim Sbin, cynllun sy'n bodoli ers 2017. Pob hydref mae cyfle i ddau o bobl gael deg mis o waith llawn amser, wedi'i dalu, ar dîm newyddion Cymraeg ITV ac arwain ar gynnwys cyfryngau cymdeithasol i blatfformau Hansh Dim Sbin.

        • Logo Cynllun Carlam Ffeithiol (Factual Fast Track) Gorllewin

          Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru

          Bob blwyddyn, mae'r cynllun Carlam Ffeithiol yn rhoi cyfleoedd i bobl sy'n gweithio yn y maes cynhyrchu ffeithiol gael y gefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad gwaith sydd angen arnyn nhw fynd i’r lefel nesaf yn eu gyrfaoedd. Diolch i S4C mae dau o lefydd ar y cynllun yn cael eu clustnodi i bobl â sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg.

          • TAC

            TAC

            Mae'r bartneriaeth rhwng S4C a TAC yn ein galluogi i ddatblygu sgiliau yn y sector cynhyrchu, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau ein bod ni'n ymateb at anghenion penodol y sector.

            • It's My Shout

              It's My Shout

              Cwmni cynhyrchu annibynnol yw It's My Shout, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddiant i bobl o bob cefndir gael blas o weithio yn y diwydiant ffilm. Mae S4C yn comisiynu pedair ffilm fer yn y Gymraeg bob blwyddyn, ac yn cefnogi yn ymarferol.

              • Logo Prifysgol Metropolitan Caerdydd

                Bwrsariaeth Darlledu Chwaraeon

                Dyma gyfle arbennig i rywun sy'n dod o gefndir sydd wedi’i dangyrychioli yn y sector ddilyn cwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r Fwrsariaeth yn cynnwys ffi'r cwrs yn ogystal â phrofiad gwaith gyda'n partneriaid cynhyrchu.

                • Logo Prifysgol Caerdydd

                  Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth

                  Mae ein Hysgoloriaeth Newyddiaduraeth yn cynnig cymorth ariannol, profiad gyrfa ymarferol a chyfleoedd gwaith i fyfyrwyr ar gwrs MA mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC), Prifysgol Caerdydd. Dyma gyfle rhagorol y gallai agor drysau i fyd Newyddiaduraeth Gymraeg.

                  • NFTS - Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol

                    NFTS Cymru

                    Mae Bwrsariaeth S4C ar gael i fyfyriwr Cymraeg sydd wedi ennill lle ar gwrs NFTS ond angen cymorth ariannol er mwyn astudio’r cwrs.

                    • Dai Jones, dyn mewn oed yn gwisgo cap fflat a cario ffon gerdded

                      Gwobr Goffa Dai Llanilar

                      Drwy Wobr Goffa Dai Jones Llanilar, mae S4C a’r Gymdeithas Amaethyddol yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio gyda chwmnïau cynhyrchu Telesgop a Slam i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, sydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.

                      • Logo ScreenSkills

                        ScreenSkills

                        Mae S4C yn cyfrannu at y cronfa di-sgript ScreenSkills, sy’n sicrhau bod hyfforddiant ansawdd uchel ar gael i bawb yn y sector yma yng Nghymru.

                        • Into Film

                          Into Film

                          Mae Canfod yn gynllun gan Into Film ar gyfer gyrfaoedd creadigol yng Nghymru – rhaglen arbennig o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael blas a dysgu am yr ystod o swyddi a llwybrau gyrfaol sydd ar gael o fewn y sector greadigol.


                          Partneriaid

                          Mae cydweithio i wneud i Gymru ffynnu yn un o sylfeini strategaeth S4C, Mwy Na Sianel Deledu, ac mae S4C yn cefnogi sawl partner allweddol, boed hynny’n ariannol neu’n ymarferol.

                          • Anabledd Cymru

                            Anabledd Cymru

                            Mae S4C yn falch o gefnogi gwaith Anabledd Cymru, sy'n ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb pobl ag anableddau.

                            • Logo Celfyddydau Anabledd Cymru

                              Disability Arts Cymru

                              Ymhlith nifer o bethau eraill, mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn  datblygu talent greadigol anabl a Byddar, ac mae S4C yn falch o fod yn aelod cyswllt ohono.

                              • Cysylltu Diwylliant Cymru

                                Cysylltu Diwylliant Cymru

                                Menter sy'n dod â thalent amrywiol yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru at ei gilydd yw Culture Connect Wales, ac mae S4C yn cefnogi yn ariannol ac yn ymarferol.

                                • TV Access Project (TAP)

                                  TV Access Project (TAP)

                                  Mae S4C yn aelod cyswllt o’r prosiect hwn, sy'n gweithio i sicrhau bod y diwydiant teledu yn hygyrch ar gyfer pobl anabl.

                                  • Logo Sefydliad Celf 'Fio'

                                    Arise

                                    Mae Arise yn brosiect wedi’i rhedeg gan sefydliad celf Fio sy'n datblygu pobl greadigol o'r Mwyafrif Byd-eang, ac mae S4C yn hapus i ddarparu arbenigedd a chyfleoedd datblygu sgiliau Cymraeg.

                                    • Logo Media Cymru

                                      Newyddion i Bawb

                                      Rydym yn gyffrous iawn i gefnogi'r prosiect hwn, sy'n gweithio gyda chymunedau lleol (ym Mhlaenau Ffestiniog yn ystod 2025/26) i ymchwilio beth mae pobl ei angen o newyddiaduraeth ac i greu modelau newydd i rannu gwybodaeth gyhoeddus.

                                      • BAFTA Cymru

                                        Bafta Cymru

                                        Mae S4C yn un o gefnogwyr craidd BAFTA Cymru, ac rydym yn falch iawn o ddathlu’r dalent sgrîn orau yng Nghymru, a hybu creadigrwydd, cyfleoedd a chymuned yn ein diwydiant. 

                                        • BAFTA Albert

                                          BAFTA Albert

                                          Mae S4C yn aelod o gonsortiwm Albert, partneriaeth sy’n ein cynorthwyo ymgorffori cynaliadwyedd fel rhan annatod o’r proses gynhyrchu y cynnwys yr ydym ei comisiynu.

                                          • Cymru Greadigol

                                            Cymru Greadigol

                                            Drwy ein Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth, rydym yn falch o gydweithio gyda Cymru Greadigol, gan gefnogi talent a chreu cyfleoedd newydd sy’n hybu creadigrwydd a chynhyrchu cynnwys gwych yng Nghymru.

                                            • Ffilm Cymru

                                              Ffilm Cymru

                                              Ar y cyd, rydym yn cefnogi Sinema Cymru – cynllun sy’n datblygu talent a chynyrchiadau ffilm Cymraeg, gan gefnogi timoedd creadigol i wireddu eu syniadau a datblygu eu sgiliau.

                                              • Canolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg

                                                Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

                                                Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn bartner holl bwysig yn ein gwaith cefnogi dysgwyr Cymraeg ledled Cymru a thu hwnt.

                                                • Royal Television Society

                                                  RTS

                                                  Mae S4C yn un o brif gefnogwyr yr RTS, gan ddathlu’r gorau o’r diwydiant teledu, cefnogi talent newydd, annog creadigrwydd a chrefft, ac helpu i gryfhau’r gymuned greadigol sy’n gwneud ein diwydiant mor fywiog ac amrywiol.

                                                  • Llenyddiaeth Cymru - Literature Wales

                                                    Bardd Plant Cymru

                                                    Rydym yn cefnogi prosiect Bardd Plant Cymru – rôl sy’n ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru drwy weithdai a phrosiectau barddonol amrywiol.

                                                    Nawdd

                                                    Un o amcanion S4C yw i ehangu gwylio gyda’n cynnwys, a drwy gefnogi llawer o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, rydym yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn dathlu amrywiaeth ymhob ffordd.

                                                    • Pride Cymru

                                                      Pride Cymru

                                                      Mae S4C yn falch o gefnogi Pride Cymru, ac yn gorymdeithio bob blwyddyn gyda'n staff, partneriaid cynhyrchu, a'n ffrindiau a theuluoedd.

                                                      • Gwobr Iris

                                                        Gwobr Iris

                                                        Trwy gefnogi Gŵyl Iris ac Iris ar Grwydr mae S4C yn helpu hyrwyddo ffilmiau byrion LHDTC+ yn y Gymraeg sy'n cael eu gwylio dros y DU a thu hwnt.

                                                        • Logo Gwobrau Cerddoriaeth Gymreig Ddu

                                                          Gwobrau Cerddoriaeth Gymreig Ddu

                                                          Mae'r Gwobrau Cerddoriaeth Du Cymreig yn dathlu rhagoriaeth mewn cerddoriaeth o darddiad Du, gan gynnwys caneuon trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae S4C yn falch o noddi.

                                                          • Ysgrifen mewn gwyn ar gefndir coch yn darllen 'Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth'

                                                            Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

                                                            Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gwneud gwaith arbennig a phwysig mewn ysgolion dros Gymru. Mae S4C yn noddi gwobrau ar gyfer prosiectau Cymraeg a dwyieithog. 

                                                            • Darluniad lliwgar ar gyfer Tafwyl, gyda castell yn y canol, offerynnau, blodau a baneri ac awyr felyn tu nol

                                                              Tafwyl

                                                              Yn ogystal â dod â holl gyffro Tafwyl i Gymru gyfan trwy ein cynnwys, rydym yn falch iawn o noddi'r digwyddiad, sy'n gwneud y gwaith pwysig o godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, a'n cerddoriaeth gyfoes fendigedig, yng Nghaerdydd a thu hwnt.

                                                              • Logo Eisteddfod Genedlaethol Cymru

                                                                Eisteddfod Genedlaethol

                                                                Yn uchafbwynt ein blwyddyn ddiwylliannol, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn drysor i ni gyd. Mae gan S4C bresenoldeb mawr ar y maes bob blwyddyn, ac mae'n harlwy o'r digwyddiad yn tyfu o hyd, ond rydym ni'n falch hefyd o'i gefnogi yn ariannol.

                                                                • Urdd Gobaith Cymru logo

                                                                  Eisteddfod yr Urdd

                                                                  Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad pwysig iawn i ni, gan fod plant yn flaenoriaeth ymhlith ein cynulleidfaoedd. Yn ogystal â noddi'r ŵyl, rydym yn cynnal digwyddiadau arbennig trwy'r wythnos ar draws y maes ac ar ein stondin.

                                                                  • Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

                                                                    Y Sioe Frenhinol

                                                                    Rydym yn falch o noddi y Sioe, un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, a rhannu’r holl gyffro gyda chynulleidfaoedd ledled y wlad. Drwy ein cynnwys a’n presenoldeb ar y maes, rydym yn dathlu’r gorau o amaeth, crefft a diwylliant Cymru, ac yn cefnogi digwyddiad sy’n dod â’n cymunedau gwledig ynghyd bob blwyddyn.


                                                                    Eisiau cysylltu â ni? amrywiaeth@s4c.cymru