S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Byrgyrs karaage Siapanëaidd

Cynhwysion

Cyw iar:

  • cluniau cyw iâr (dim croen nac asgwrn)
  • mirin
  • saws soî
  • siwgr gwyn
  • garlleg
  • sinsir ffres
  • olew sesame
  • olew (llysiau, blodyn yr haul neu pysgnau)
  • blawd plaen
  • blawd corn
  • hadau sesame du a gwyn
  • halen

Picl:

  • sialóts
  • finegr reis du Japaneaidd
  • halen
  • olew olewydd extra virgin

I orffen:

  • 'milk buns' neu rôls brioche
  • kewpie mayo
  • gwymon bara lawr crispi
  • wasabi ffres a / neu tsilis ffres

Dull Chris

Cyw iar:

  1. Marinadio'r cluniau mewn mirin, saws soî, siwgr gwyn, garlleg, sinsir ac olew sesame. I mewn i'r oergell i'r am awran.
  2. Cynhesu olew (un sydd 'efo marc smocio uchel fel olew llysiau, olew blodyn yr haul, olew pysgnau) fynu i 170℃.
  3. Sortio'r 'dredge': 50/50 blawd plaen a blawd corn, hadau sesame a halen. I mewn efo'r cluniau cyw iâr - bydd angen 'neud yn siwr bod pob darn o'r cyw iâr wedi'i orchuddio yn y gymysgedd. Tap bach i gal gwared o'r blawd a 'da ni'n barod am y ffrio!!
  4. Yn ofalus iawn, rhoi'r cluniau i mewn i'r sosban o olew - PLIS peidiwch â gorlenwi'r badell /sosban / ffrïwr. Ffrio mewn 'batches' bach o 2-3 max am 10 munud dda yn dibynnu ar be 'di seis y cyw iâr. Gadael i pob batch orffwys am 10 munud ar ôl ffrio.

Picl:

  1. Tra ma'r cig yn gorffwys, 'neud picl syml efo'r sialóts, finegr reis du, halen, a drizzle bach o olew olewydd EV.

I orffen:

  1. Ar ôl tostio'r 'milk buns', amser i adeiladu'r byrgyr mwya' epic 'rioed! Squeeze da o Kewpie mayo, ar efo'r cyw iâr, picl, mwy o Kewpie, gwymon crispi a gratio'r wasabi (a / neu defnyddio tsili ffres am gic). IDDI'N GALAD!!

Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?