S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Chris Roberts

    Chris Roberts

    calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021

  • Nwdls cranc

    Cynhwysion

    • bol porc mochyn Cymreig
    • sdoc
    • saws Caerwrangon
    • cwmin
    • hadau ffenigl
    • hadau carwe
    • tsili wedi'i fygu
    • cig cranc yn barod i goginio
    • nwdls
    • leim
    • sialot
    • garlleg
    • saws pysgod
    • saws llymarch
    • siwgr brown
    • cenhinen syfi
    • saws soi ysgafn
    • saws soi tywyll

    *Bydd angen pot clai neu wok ar gyfer y rysait yma.

    Dull Chris

    Y cig

    1. Simrwch bol porc mochyn Cymreig am awr a hanner mewn sdoc efo ychydig o cwmin, hadau ffenigl a hadau carawe, Tsili wedi ei fygu a saws Caerwrangon.
    2. Cadwch y sdoc o'r cig wrth law ar ôl coginio'r cig.

    Y nwdls

    1. Rhowch y nwdls mewn dŵr poeth am tua chwarter awr.

    Saws Thai

    1. Suddwch un leim i fewn i bowlen.
    2. Torrwch y tsili a'i sleisio'n fân cyn gratio'r sialot a garlleg ac ychwanegu i'r cymysgedd.
    3. Ychwanegu saws pysgod, tipyn bach o siwgr brown a chenhinen Syfi cyn cymysgu pob dim efo'i gilydd.

    Y sdoc a'r nwdls

    1. I turbochargio'r sdoc, rowch glug go dda o saws Pysgod, saws Llymarch, saws soi tywyll a saws soi ysgafn i mewn.
    2. Sleisio'r porc yn denau yna ychwanegu ychydig o olew ar waelod y pot neu'r wok.
    3. Rhoi'r nwdls dros y porc cyn rhoi'r cig cranc ar dop y nwdl ac arllwys y sdoc ar ei ben.
    4. Rhowch caead ar y wok a gadewch iddo ferwi neu 'byblo' am 10 munud.
    5. Rhoi'r saws Thai dros y nwdls – ychydig ar y tro.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.

    Rysáit gan Chris Roberts.

    Instagram: @flamebaster

    Twitter: @FLAMEBASTER

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?