S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Nygets offal

Cynhwysion

Aioli

  • 2 felyn wy
  • pinsiad o halen
  • powdwr mwstard
  • olew olewydd
  • dail mint
  • sudd lemon

Blawd 'devilled'

  • blawd
  • pupur cayenne
  • powdwr mwstard
  • halen

I goginio

  • olew 'groundnut'

Dull Chris

Aioli

  1. Rhowch dau felyn wy, pinsiad o halen a phowdr mwstard mewn powlen a'r gymysgu dda.
  2. Yn araf, rhowch olew olewydd i mewn cyn torrir garlleg yn fân a'i ychwanegu i'r cymysgedd.
  3. Ychwanegwch dail mintys wedi torri'n fân a sudd lemon i'r cymysgedd.

Y cig

  1. Mae'n bwysig iawn i socian y cig mewn dŵr poeth a halen cyn dechrau er mwyn i'r bilen sydd o gwmpas yr ofal ddod i ffwrdd.
  2. Tynnwch y bilen i ffwrdd o'r darnau cig a'i gosod nhw naill ochr.

Blawd 'coch'

  1. Rhowch flawd plaen mewn i'r bowlen gyda digon o bupur cayenne, powdr mwstard a halen a'i gymysgu'n dda heb adael unrhyw rhannau o flawd plaen yn y cymysgedd.
  2. Gan ddefnyddio llaw – gorchuddiwch pob ddarn o gig gyda'r blawd coch a'i gosod mewn powlen yn barod i goginio.

I goginio

  1. Cynheswch olew 'groundnut' ar wres uchel ac ychwanegwch y nygets i'r olew am un neu ddau munud bob ochr tan i'r blawd droi'n greisionllyd.
  2. Draeniwch yr olew sydd dros ben o'r nygets cyn ffrio'r darnau syn weddill.
  3. Rhowch ar blât efo potyn o'r ailoi a phinsiad o halen.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.

Rysáit gan Chris Roberts.

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?