S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cebab cig oen

Cynhwysion

Cig:

  • cig oen Cymreig wedi'i ddeisio

Marinêd:

  • hadau carwe
  • hadau ffenigl
  • hadau coriander
  • hadau cwmin
  • tsili Thai
  • dail bae
  • halen
  • olew olewydd

Bara:

  • toes (dwr, blawd, halen, a burum)

Ychwanegol:

  • tsili
  • pupur coch
  • mintys
  • finegr gwin gwyn
  • finegr gwin coch
  • siwgr
  • rhosmari
  • menyn
  • sialot

Dull Chris

Marinâd:

  1. Tostio hadau carawe, ffenial, hadau coriander, hadau cwmin a tsili Thai nes bod nhw'n popio fel popcorn.
  2. Rhowch dail bae mewn 'pestle & mortar' efo ychydig o halen a malu gyda'r sbeisys cyn ychwanegu olew olewydd.
  3. Rhowch y marinâd ar y cig a'r thylino i mewn a'i adael i orffwys.

Y Toes (Gwnewch hwn y diwrnod cynt):

  1. Cymysgwch y blawd, halen a burum ac ychydig o ddŵr i wneud y toes.
  2. Gwasgwch y toes i siâp a'i osod ar y tân. Unwaith mae'r toes yn dechrau byblo, mae o'n barod am fflip bach.

Cebab a'r ychwanegion:

  1. Torgoch pupur a tsilis ar y tân a torri nhw i fyny. Cymysgwch gydag olew olewydd a mint.
  2. Piclwch y tsilis gan dorri'r tsilis a'u cymysgu efo finegr gwin gwyn a siwgr.
  3. Piclwch y sialóts gan dorri'r sialóts mewn i chwarteri a'u cymysgu efo olew olewydd, finegr gwin coch ac ychydig o halen.
  4. Am y 'crunch' 'na, sleisiwch cabaets coch yn denau cyn rhoi'r cig oen ar y tân.
  5. I gadw'r cig yn jiwsi-jiwsi, bastiwch nhw efo brwsh rhosmari, menyn a 'chydig o'r marinâd oedd dros ben.
  6. Coginiwch y cig tan i'r cig frownio'n dda.
  7. Rhowch bob dim ar blât a tyciwch mewn!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.

Rysáit gan Chris Roberts.

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?