S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Baklava o Syria

Cynhwysion

  • talennau crwst filo
  • 500g siwgr gwyn
  • 200ml mêl Cymreig
  • 200g cnau Ffrengig
  • 200g cnau cyll
  • 200g cnau pistachio
  • 1 llwy fwrdd powdr sinamon
  • 500g ghee
  • sudd lemwn
  • zest oren

Dull Chris

  1. Cychwyn efo'r surop. I mewn i'r sosban efo'r siwgr, mêl, 500ml o ddŵr a sudd lemwn, dod â fo i'r berw am 20 munud da yna gadael iddo oeri - ma'n bwysig bod y surop 'di oeri'n llwyr cyn ei roi ar y baklava! Surop poeth = baklava soggy afiach!
  2. Cynhesu'r popty i 175℃.
  3. Taflu'r cnau i mewn i'r prosesydd bwyd a pulsio tan ti efo darnau mân. Cymysgu'r sinamon i mewn.
  4. Toddi'r ghee yn y microwave am 30 eiliad.
  5. Brwsio'r trê efo ghee, yna i mewn 'efo dwy ddalen o filo. Brwsio efo ghee eto ac ailadrodd hyn bedair gwaith.
  6. Ychwanegu llond llaw da o'r cymysgedd cnau yna dwy ddalen o filo, brwsio efo ghee ac ailadrodd hyn am faint bynnag 'da chi isio cyn gorffen 'efo 8 dalen ar y top fel sydd ar y gwaelod (cam 5).
  7. Defnyddio cyllall sharp i dorri'r darnau baklava. Arllwys mwy o ghee yn yr holltau.
  8. I mewn i'r popty am hanner awr da neu tan bod y top yn crispi brown euraidd.
  9. Arllwys y surop dros y baklava yn syth ar ôl iddo ddod allan or popty - bydd angen digon o surop achos bydd y crwst a'r cnau yn amsugno lot ohono!
  10. Gadael iddo oeri lawr i dymheredd 'stafell, heb ei orchuddio, am 4-6 awr.
  11. Dwi'n lyfio serfio a bwyta hwn 'efo hufen tew a dail mintys!

Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?