S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Humbà Ffilipinaidd

Cynhwysion

  • bol porc (mewn darnau tua un modfedd)
  • peppercorns cymysg
  • cwmin
  • nionod
  • garlleg
  • sinsir
  • finegr pinakurat
  • sudd pînafal
  • saws soî
  • dwr
  • siwgr brown
  • ffa du wedi'i eplesu
  • bae dail

Chicharron:

  • 'rind' y bol porc (gofyn i'r bwtchar tynnu'r rind o'r bol)
  • olew olewydd

Salad daikon:

  • rhuddygl daikon
  • nionod coch
  • olew olewydd extra virgin
  • halen môr
  • finegr pinakurat
  • persli ffres

Dull Chris

Humba:

  1. Ffrio'r tsiyncs o bol porc a'i liwio, i mewn 'efo'r peppercorns cymysg a cwmin (ar ôl bash yn y 'pestle & mortar'), yna ychwanegu'r nionod, garlleg a sinsir. Ffrio tan bod y nionod yn feddal, wedyn 'deglaze' 'efo'r finegr pinakurat.
  2. I mewn 'efo'r sudd pînafal, sblash o saws soî a dipyn o ddwr, llond llaw o siwgr brown a'r fermented black beans (ma rhain yn rili hallt). Ti isio'r hylif jysd gyfro'r cig! Caead ar yna cwcio ar dân isel am 3-4 awr. Gadael y caead ffwrdd am yr awran ola i reducio'r sôs.
  3. Ar ôl 3-4 awr, dylai'r bol porc fod yn rili tendar a'r sôs 'di reducio lawr.

Chicharron:

  1. Os dachisho go ar neud hwn, mae 'na dipyn o waith prep syml i 'neud - berwi'r rind am awran, gadal o oeri rhywfaint cyn crafu gymaint o'r braster gwyn o'r rind (wrth fod yn ofalus ddim i neud tylla yn y rind).
  2. I mewn i'r dehydrator neu'r popty ar dymheredd rili isal (70℃) am 12-18 awr. Dylai'r rind fod fel plastig / gwydr brown erbyn y stêj yma.
  3. Rhoi'r rind mewn olew poeth, dyfn a bydd o'n pyffio mwy na Snoop Dogg ar b'nawn Sul!

Salad daikon:

  1. Pilio a torri'r rhuddygl daikon i mewn i stribedi tenau, yna ei roi mewn powlen efo stribedi tenau o nionod coch, glyg o olew olewydd 'Extra Virgin', pinsiad o halen môr, sblash o finegr pinakurat a dail persli ffres.
  2. Dwi'n hoffi serfio'r humba efo'r chicharron, y salad, a reis o'r paced - syml!

Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?