S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Caws blodfresychen

Cynhwysion

  • blodfresych
  • olew olewydd
  • pupur cayenne
  • menyn
  • blawd
  • llefrith/llaeth
  • hufen dwbl
  • cheddar Cymreig
  • tsili
  • nytmeg
  • moron piws, oren a melyn
  • tatws
  • garlleg
  • mêl
  • cnau pinwydd
  • saim gwydd
  • marmite
  • saets

Dull Chris

1. Torrwch dail y blodfresychen a rhoi nhw'n gyfan ar dun pobi.

2. Rhowch olew olewydd dros y blodfresych, pupur cayenne a rhwbio nhw i mewn.

3. Rhowch y dail yn y popty neu mewn 'smoker' am hanner awr ar wres uchel.

Y saws Caws

4. Toddi menyn cyn ychwanegu blawd a'i gymysgu.

5. Ychwanegwch hanner llefrith a hanner hufen dwbl.

6. Unwaith mae'n dechrau berwi / byblo, tynnwch oddi ar y gwres cyn ychwanegu'r caws Cymreig.

Y Blodfresychen

7. Torrwch pob coesyn o'r blodfresychen a'u torri mewn i meintiau gwahanol.

8. Rhowch mewn tun pobi cyn eu gorchuddio efo'r saws caws

9. Sleisiwch tshili'n fan a'i rhoi ar ben y saws.

10. Adeg y Nadolig, gratiwch nytmeg dros y cyfan a'i orffen efo ychydig o ddail saets.

11. Rhowch yn y popty am hanner awr ar wres 180C. Unwaith mae'r ymylon yn dechrau crasu, mae'r blodfresychen yn barod.

Ychwanegion o'r Gŵydd

12. Berwi moron piws, oren a melyn am 5 munud.

13. Rhowch mewn tun pobi a'i rhostio efo mêl a chnau Pinwydd am 35 munud.

14. Berwi a stwnsho tatws a defnyddio'r garlleg wedi rhostio gyda'r gŵydd a digon o olew olewydd. Bydd hwn yn gwneud y tatws stwnsh yn llyfn.

15. Ffriwch adenydd yr ŵydd i wneud stoc cartref. Defnyddiwch y sdoc i wneud eich grefi gyda llwyth o port wedi ychwanegu iddo.

16. Heb anghofio'r tatws rhost. Berwch y tatws am bum munud yna gorchuddio'r tatws mewn saim gŵydd a llwyaid o Marmite. Rhowch yn y popty ar 180C am 40 munud.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.

Rysáit gan Chris Roberts.

Instagram: @flamebaster

Twitter: @FLAMEBASTER

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?