Fel rhan o ddathliadau Dechrau Canu Dechrau Canmol yn 60 oed, rydyn ni am gomisiynu emyn newydd i Gymru.
Llongyfarchiadau i Eirian Dafydd awdur y geiriau buddugol gyda Gweddi'r Pererin. Yn dilyn cyhoeddi enillydd y geiriau rydym nawr yn eich croesawu chi i gyfansoddi emyn dôn ar gyfer Gweddi'r Pererin. Bydd gwobr o £200 i'r cyfansoddwr buddugol.
Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i'r cysgodion
yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon,
cyfeiria fi at loches y fforddolion
lle byddi di, yn disgwyl im nesáu.
Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb
wrth geisio'r ffordd i fywyd o ffyddlondeb;
trwy niwl fy myd, synhwyro'th bresenoldeb
a theimlo'r llaw, sy'n estyn i'm hiacháu.
A thrwy'r iacháu, daw cyffro dy gyffyrddiad
yn brofiad byw, yn gyfrwng fy adfywiad;
er gwendid ffydd, o obaith daw arddeliad
a'th gariad di yn foddion i'w gryfhau.
Ar ôl cryfhau a'm derbyn yn etifedd
o fewn dy byrth, caf brofi o'th ddigonedd;
rhyfeddu wnaf, O Dad, at dy drugaredd
gan aros byth, i'th foli a'th fwynhau.
Dylid anfon y gerddoriaeth naill ai drwy'r post mewn amlen at:
Neu drwy e-bost at emynigymru@rondomedia.co.uk
Rhaid i bob cystadleuydd gynnwys y manylion canlynol gyda'i cais:
Dyddiad Cau: 29 Ebrill 2022