

Hydref 2025
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinopolis, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 17 oed neu'n hŷn i chwarae a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion oedran wrth gofrestru i chwarae. Ceidw'r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.
3. I gystadlu, rhaid ticio'r blychau perthnasol i dderbyn telerau ac amodau Ap Cwis. Bydd rhaid i bob ymgeisiydd wneud hyn cyn cael mynediad i chwarae.
4. Drwy gydol y tymor, bydd y cystadlaethau wythnosol yn dechrau am 00:01 ar fore dydd Llun ac yn cau am 23:59 ar nos Sul.
5. Bydd y tymor yn dechrau am 00:01 ar y 6ed o Hydref 2025 ac yn cau am 00:00 ar y 3ydd o Dachwedd 2025.
6. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
7. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am hyd at 12 mis ar ôl diwedd y tymor diweddaraf er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau. Yn unol â rheoliadau GDPR, gall chwaraewyr ddileu eu data personol ar unrhyw adeg trwy ddileu eu cyfrif o dan y gosodiadau proffil ar yr Ap.
8. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi preifatrwydd sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi sydd wedi'i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16717/privacy-policy/.
9. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
10. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan yr ymgeiswyr, nac am unrhyw gyfathrebu gan y chwaraewyr â thîm gweinyddol Cwis.
11. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r deddfau a’r canllawiau perthnasol.
12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
13. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gystadleuaeth at y tîm gweinyddol: cwisbobdydd@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 414.
I fod yn gymwys i ennill prif wobr y tymor, rhaid i ymgeiswyr chwarae o leiaf un gêm o Cwis Bob Dydd er mwyn gorffen y tymor gyda sgôr terfynol. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys.
Bydd Tinint (y Cwmni) yn cysylltu â'r enillydd at ddibenion dilysu ac i gasglu rhagor o fanylion fel y gall S4C anfon y wobr. Rhaid i'r enillydd ymateb i gadarnhau eu manylion o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i dîm gweinyddol Cwis gysylltu â nhw.
I weld y telerau ac amodau llawn, ewch i:
s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/telerau-ac-amodau-cystadleuaeth/
Trwy dderbyn telerau'r gystadleuaeth hon, mae pob chwaraewr yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng. Mae’n bosibl y bydd y Cwmni ac S4C yn cysylltu â chwaraewyr/enillwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo a marchnata. Bydd unrhyw gyfranogiad mewn gweithgareddau o'r fath yn ôl disgresiwn y chwaraewr/enillydd.
Rhaid bod yn 17 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r ap hwn. Drwy ddefnyddio'r ap a chytuno i'r telerau ac amodau hyn, rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu eich bod yn 17 oed neu'n hŷn.