Cymryd rhan

Cymryd rhan

Y Ddadl Fawr : Etholiad 2026

Cyfle i fod yn rhan o’r gynulleidfa ar gyfer Y Ddadl Fawr : Etholiad 2026, sydd i’w chynnal yn Yr Egin, Caerfyrddin nos Iau, Ebrill y 23ain.

Bethan Rhys Roberts fydd yn cyflwyno gyda phanel o wleidyddion a chyfle i chi ofyn cwestiynau.

Efallai eich bod yn rhedeg busnes, yn gweithio mewn siop neu’n gweithio ar reng flaen y gwasanaeth iechyd. Gallwch fod wedi ymddeol, yn hunan-gyflogedig, heb waith neu’n dal yn yr ysgol. Efallai eich bod yn riant, yn fyfyriwr neu’n ofalwr. Rydym am eich gwahodd i ymuno â ni ac yn gyfle ichi ofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi.

Llenwch y ffurflen gais, neu e-bostiwch yddadlfawr2026@bbc.co.uk am fwy o wybodaeth.

Dyddiad cau: 23 Ebrill 2026