
Ydych chi eisiau herio Y DEIS?
Cyfle i gymryd rhan yng nghyfres nesaf Y Deis am gyfle i ennill hyd at £5,000 o bunnau! Bydd angen gwybodaeth cyffredinol, strategaeth ac fel unrhyw gem sy'n dibynnu ar dafliad y deis...ychydig bach o lwc!
Rydyn ni'n edrych am barau dros ddeunaw oed, boed ffrindiau, teulu neu bartneriaid, gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Dyddiadau ffilmio rhwng y 20fed-24ain a 27ain-31ain o Awst. Bydd dim ond angen bod ar gael am un o’r diwrnodau hyn.
Llenwch y ffurflen gais, neu e-bostiwch ydeis@slam-media.co.uk am fwy o wybodaeth.
Dyddiad cau: 30 Mehefin 2026