S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Mae'n hollbwysig fod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o'r ffordd y mae rhaglenni S4C yn cael eu cynhyrchu. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn cadw ein heffaith amgylcheddol mor isel â phosibl. Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ac annog y cynhyrchwyr rydym yn gweithio â nhw i roi blaenoriaeth i'r amgylchedd wrth gynhyrchu rhaglenni.

Bydd partneriaeth S4C gyda chonsortiwm BAFTA Albert, yn orfodol o 1 Ionawr 2022 (heblaw ei bod yn gyfres dan 15 munud o hyd a/neu fod cyfanswm y gyllideb yn llai na £50,000) wedi cyfnod o dreialu ers mis Medi. Bydd hyn yn berthnasol i unrhyw gomisiwn newydd lle mae'r briff yn cael ei awdurdodi o 1 Ionawr ymlaen.

Mae gwybodaeth bellach i'w gael ar safle cynhyrchu S4C o dan Albert - (<https://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/page/1154/canllawiau/>) ac mae modd ebostio unrhyw dystiolaeth ategol at albert@s4c.cymru

Gellid cael mwy o wybodaeth am Albert yn: https://wearealbert.org/

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad ar y cynllun pwysig hwn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?