Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Galwad am syniadau Hansh

Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am gynnwys i gyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau cynnwys fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen. Cyfresi mentrus gyfoes ffurf ganolig i gyhoeddi ar YouTube Hansh.

 

Rydym yn chwilio am gyfresi:

 

  • Adloniant
  • Teithio
  • Arbrawf Cymdeithasol
  • Cariad (Dating)
  • Materion Cyfoes
  • Ffilmiau Byr Sengl – Dogfen/Sgript

 

Hyd: 10-12 munud y bennod. 4-8 pennod.

 

Rydym yn awyddus i gomisiynu fformatau cryf a fydd yn medru dychwelyd i gyfoethoci arlyw YouTube Hansh. Mi fydd y cynnwys o bosib yn dilyn patrymau cyhoeddi gwahanol i’r arfer er mwyn creu patrymau cyhoeddi sy’n gweddi’r platfform. Rydym yn awyddus i gael syniadau am bobl ifanc eithriadol o Gymru.

 

Bydd angen i bob pitch fod ar ffurf 'deck slide' gan gynnwys:

 

  • Teitl cryf a chlir – Dim teitl, dim comisiwn
  • Strapline un llinell
  • Cynllun Castio, gan gofio prif nod Hansh o ddargafnod gwynebau a lleisiau newydd.
  • Esboniad clir o pam Hansh, pam nawr, pwy mae'n apelio atyny a pham ei fod yn berthnasol i'r gynulleidfa yna?
  • A rhaid i chi ddangos yn glir eu bod yn berthnasol ac yn adlewyrchu dyheadau a diddordebau cyfoes gwylwyr 18-24
  • Syniad pendant o naws ac arddull y gyfres - pwy yw eich dylanwadau? nRhowch enghreifftiau a delweddau / fideo / moodboard
  • Pecyn o gynnwys cyfryngau cymdeithasol i gyd fynd gyda’r gyfres
  • Ychydig o wybodaeth am y tim creadigol allweddol a'ch profiad dogfen / dolenni i waith blaenorol
  • Wrth ymgeisio dylid ystyried oblygiadau cytundebol ar y cynnwys fydd yn yn byw yn ddigyfyniad ar YouTube.

 

Cyllideb

 

Yn ddibynnol ar y cynnwys, ond rydym yn edrych ar gomisiynu'r cynnwys ar dariff hyd at £1,000 y funud.

 

Sut i gyflwyno syniad?

 

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 Dydd Llun, 15fed o Fedi, 2025. Gallwch gyflwyno mwy nag un syniad, ond bydd angen i chi eu hafnon ar wahân. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy ebost.

 

Mae gwefan gynhyrchu S4C s4c.cymru/cy/cynhyrchu yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.

 

Mae'n fwriad gan Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc ddewis rhestr fer ganol Hydref- cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.

 

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.

 

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.