Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Datganiad Cyflenwyr: Aflonyddu Rhywiol

Hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i greu a chynnal amgylchedd gwaith diogel, parchus a chynhwysol i bawb sydd yn gweithio i - ac ar ran S4C.
 
Mae’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi dod i rym yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar yn cryfhau’r amddiffyniadau yn erbyn aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cynyddu dyletswydd cyflogwyr i gymryd camau rhagweithiol i atal aflonyddu rhywiol - rhywbeth yr ydym ni’n gwbl ymrwymedig iddo ac yn ei gymryd o ddifrif.

Hoffwn hefyd eich atgoffa o’ch dyletswydd wrth weithio i S4C, neu wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer neu ar ran S4C.
  
Hoffwn felly rannu ein Datganiad Cyflenwyr: Aflonyddu Rhywiol, sydd hefyd ar gael ar ein gwefan. Mae’r polisi’n nodi’n glir beth yw ymddygiad annerbyniol a sut rydym yn cefnogi unrhyw un sy’n profi neu’n tystio i unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn sicrhau bod y camau priodol yn eu lle o ran eich polisiau, ac yn cynnwys aflonyddu fel ffactor penodol mewn asesiadau risg a sut i ddelio/adrodd ar hyn.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn ymrwymo i CIISA - sef yr Awdurdod Safonau Annibynnol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol, sy'n gweithio i godi a chynnal safonau ymddygiad ar draws y sector, a mynd i’r afael ag unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu, gan gynnwys ymddygiad gwahaniaethol. Mae CIISA am lansio llinell gymorth dros y misoedd nesaf – a byddwn yn rhannu’r manylion yma gyda chi.

Mae S4C hefyd yn cefnogi Elusen Ffilm a Theledu, sydd â llinell gymorth ar gael 24/7 ac sy’n cynnwys siaradwyr Cymraeg
 
Os ydych yn profi neu’n dyst i ymddygiad sy’n peri pryder, mae hefyd croeso i chi gysylltu â pryder_concern@s4c.cymru.
 
Diolch i chi am barhau i chwarae eich rhan yn adeiladu diwylliant cadarnhaol i bawb.