Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Dyddiadau Cymeradwyo a Chyfleu

15 Medi 2025

Nodyn i'ch atgoffa o bwysigrwydd y dyddiadau cymeradwyo a chyfleu ar gyfer cynnwys i S4C sydd wedi cytuno a nodi yn eich trwydded/cytundeb.
Mae'r dyddiadau hyn yn cael eu defnyddio gan system ddarlledu S4C, ac yn cael eu bwydo i wahanol adrannau er mwyn trefnu amserlenni gwaith mewnol, paratoi deunydd hyrwyddo a marchnata, ac ar gyfer cwmnïoedd allanol sy’n darparu gwasanaethau mynediad ar gyfer ein cynnwys. Mae’n bwysig felly os oes unrhyw newidiadau i ddyddiadau cyfleu, eich bod yn ein hysbysu cyn gynted â bod modd er mwyn addasu’r llifoedd gwaith a sicrhau bod y staff perthnasol ar gael i ymateb a chyflawni’r gwaith mewn pryd.
Mae hefyd yn bwysig i sicrhau eich bod yn trafod a chytuno unrhyw newidiadau i ddyddiadau cymeradwyo gyda’r Comisiynwyr cyn gynted â bod modd, a cyn ail-drefnu’ch amserlen ôl-gynhyrchu, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i amserlennu a chyflawni’r gwaith.
Mae medru cyfleu prydlon hefyd yn help i’r timoedd marchnata, digidol a chyfathrebu medru blaengynllunio eu hymgyrchoedd. Pan mae rhaglenni yn cael eu cyfleu’n agos at y dyddiad TX, mae’n bosib na fydd adnodd digonol i baratoi’r ymgyrch ar ei orau. 
Gofynnwn i chi gyfeirio pob cais ar gyfer newid dyddiadau cymeradwyo at eich Comisiynydd ac at cyfleu@s4c.cymru cyn gynted â bod modd.
Gofynnwn i chi gyfeirio pob cais i newid dyddiad cyfleu rhaglen at Materion Busnes drwy e-bost (cyfleu@s4c.cymru) o leiaf 20 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cyfleu gwreiddiol, gyda'r manylion isod yn y cais:

  • Enw'r rhaglen
  • Rheswm am y cais
  • Oes trafodaeth wedi bod gyda'r tîm comisiynu?
  • Dyddiad cyfleu ar hyn o bryd
  • Awgrym o ddyddiad cyfleu newydd

     

Bydd aelod o'r tîm Materion Busnes yn ymateb ar e-bost o fewn pedwar diwrnod gwaith a chadarnhau a fydd y newid dyddiad cyfleu yn bosib neu beidio. 

Bydd hyn yn sicrhau bod y cwmni cynhyrchu ac S4C yn glir am bryd i ddisgwyl i'r cynnwys gael ei gyfleu i S4C, ac yn ein galluogi i newid camau eraill lle bo’r angen.
Os ydych yn cysylltu am gyfleu hwyr ar y diwrnod neu o fewn ychydig ddyddiau o'r dyddiad cytundebol mae angen hysbysu'r Llyfrgell (allinlibrary@s4c.cymru) a Materion Busnes (mb@s4c.cymru) ac nid yr uchod.
Gyda diolch am eich cydweithrediad.