
16 Medi 2025
Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu pecyn o gynnwys digidol. Rydym yn galw am becyn o syniadau dewr a digidol eu natur sy’n adlewyrchu calon, hiwmor ac enaid Cymru, wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer cynulleidfa 25-44. Gyda’r bwriad o gyhoeddi ar ddechrau 2026.
Linc i’r tendr yma: Tendr Pecyn Cynnwys Digidol
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12:00 Canol dydd, Dydd Mercher 22 Hydref 2025
Yn ychwanegol i’r tendr pecyn digidol a gyhoeddwyd, hoffem ychwanegu’r datganiad canlynol er gwybodaeth bellach.
Rydym wedi derbyn nifer o gwestiynau a byddwn yn darparu atebion llawn iddynt erbyn diwedd dydd Mercher.
Sylwer hefyd ein bod wedi ymestyn y dyddiad cau i’r 22ain o Hydref fel y nodir yn y fersiwn ddiweddaraf o’r ddogfen dendr sydd ar ein gwefan gynhyrchu: Tendr Pecyn Cynnwys Digidol
Mae’r gyllideb flynyddol ar gyfer cynnwys digidol yn 2025/26 yn £2 filiwn, gyda chynnydd pellach ar gyfer 2026/27. Mae’r tendr hwn yn un elfen, ond dim ond rhan ohono. Bydd dal cyfle i gwmniau sydd ddim yn llwyddiannus y tro hwn gynnig syniadau digidol y tu hwn i‘r tendr (fel yr arfer)
Hoffem bwysleisio nad oes rhaid partneru — opsiwn yn unig yw hyn.
Mae’r ffigwr o tua £1,000 y funud yn gyson â chyllidebau tebyg yn y maes digidol ar draws y DU.
Pecyn o waith digidol i atgyfnerthu ein presenoldeb ar blatfformau trydydd parti yw hwn, a hynny dan ofalaeth Guto Rhun fel comisiynydd, gan drafod yn y drefn arferol gyda’r Prif Swyddog Cynnwys.
Yn dilyn derbyn cwestiynau ar gyfer Tendr Pecyn Digidol, gweler y ddolen isod sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau a’u hatebion: Cwestiynau ac Atebion - Tendr Pecyn Cynnwys Digidol