
9 Hydref 2025
Mae S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau cynhyrchu sydd â diddordeb mewn creu ffilm ddogfen ffurf hir am y celfyddydau yng Nghymru.
Manylion Allweddol:
Gofynion Ychwanegol:
Cyllideb
Hyd at gyfanswm o £130,000
Sut i gyflwyno syniad?
Os oes gennych ddiddordeb, bydd angen cyflwyno’r syniad drwy’r Cwmwl at sylw Llinos Wynne cyn 12:00 dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.
Gall pob cwmni gyflwyno hyd at 2 syniad felly rydym yn awgrymu’ch bod yn trafod diddordeb yn y syniad gyda Llinos Wynne ymlaen llaw. Dylid cyflwyno’r ddau syniad ar wahan ar y Cwmwl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ffenest o 6 mis rhwng y dyddiad cyfleu a’r dyddiad cyhoeddi er mwyn galluogi cyfnod o ddangosiadau mewn gwyliau a sinemau.
Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.
Bydd cynrychiolydd o’r Cyngor Celfyddydau yn rhan o’r broses ddarllen gychwynnol ac yn cynnig mewnbwn.
Mae'n fwriad gan Llion Iwan, Llinos Wynne a’r Cyngor Celfyddydau ddewis rhestr fer erbyn dechrau Ionawr 2026 - cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost.
Os byddwch yn llwyddiannus bydd S4C yn gweinyddu’r broses gomisiynu drwy’r llwybr arferol. Bydd angen trafod y gyllideb a’r manylion cytundebol gyda’r adran Materion Busnes, ac i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael gwahoddiad i wneud.
Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.
Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.