Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

S4C x TAC: Dychmygu’r Dyfodol ar 5-6 Tachwedd 2025

Mae S4C a TAC yn falch o’ch gwahodd i Ddychmygu’r Dyfodol – cynhadledd flynyddol newydd ar y cyd i osod cyfeiriad ar gyfer cynhyrchu a chreu cynnwys Cymraeg. 

Dyddiad: 5–6 Tachwedd 2025 
Lleoliad: Gwesty’r Park Plaza, Caerdydd 

Ymunwch â ni - ynghyd â chynhyrchwyr, rhydd-gyfranwyr a gweithwyr creadigol o bob cwr o Gymru - i drafod dyfodol y diwydiant o safbwynt Cymraeg a Chymreig. 

Mae’r gynhadledd yn dilyn lansiad strategaeth bum mlynedd S4C, Mwy na Sianel Deledu, ac yn cyd-fynd â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, dyma gyfle i rannu syniadau, ysbrydoli’n gilydd a chydweithio i weld Cymru’n ffynnu. 

Rydym yn annog cwmnïau i wahodd staff ar bob lefel, o dalent newydd i arweinwyr profiadol, i gymryd rhan yn y deuddydd o rwydweithio, dysgu ac edrych tuag at ddyfodol y diwydiant yng Nghymru. 

Archebwch eich lle nawr

 

Amserlen

Dydd Mercher 5 Tachwedd 

13:30 – 14:00 – Cyrraedd a chofrestru  

14:00 – 15:00 – O’r Sgrin i Sgrolio 
Beth allwn ni ddysgu gan grewyr cynnwys digidol? Panel o wynebau o’r cyfryngau cymdeithasol yn trafod sut maen nhw’n denu cynulleidfaoedd, ac yn rhannu gwersi ar gyfer cynnwys Cymraeg. 

14:00 – 16:00 – Gweithdy AI gyda Robin Moore 
Ystafell Syndicate 
Taith ymarferol drwy’r gadwyn gynhyrchu teledu, gan amlygu’r nifer o ffyrdd amrywiol o ddefnyddio AI. Pryd gall AI fod yn ddefnyddiol, a ble mae’r dechnoleg yn dal i fod â’i chyfyngiadau? 

15:00 – 15:15 - Paned 

15:15 – 16:00 – Beth mae S4C yn ei wneud i fi? 
Zahra Errami yn llywio sgwrs onest gyda phanel o bobl ifanc am rôl S4C yn eu bywydau – beth sy’n gweithio, beth sydd ddim, a sut gall y sianel barhau i fod yn berthnasol i’r genhedlaeth nesaf. 

16:00 – 16:45 – Marcus Ryder: Drych i’r Diwydiant  
Yn seiliedig ar adroddiad Looking Glass, bydd Marcus Ryder, Prif Weithredwr y Film + TV Charity yn rhoi’r chwyddwydr ar lesiant yn y diwydiant yng Nghymru – ac yn trafod yr angen i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, iach a chynaliadwy. 

18:00 – 21:00 – Codi Gwydraid: Pen-blwydd hapus, S4C! 
Noson o sgwrsio, rhwydweithio a chodi gwydraid gyda ffrindiau’r diwydiant yn y Kuku Club - croeso i bawb. Noddir yn hael gan Hugh James a Sunbelt Rentals. 

 

Dydd Iau 6 Tachwedd 

09:30 – 10:00 – Brecwast 

10:00 – 10:15 – Croeso gan Brif Weithredwr S4C 

10:20 – 11:50 – Cyfarfod Sector Cynnwys S4C 
Cyflwyniad gan dîm comisiynu S4C ar eu blaenoriaethau, cynlluniau creadigol a chyfleoedd i gydweithio. 

10:20 – 11:20 – Cyfarfod Sector Gweithredol S4C 
Ystafell Syndicate 
Cyfle i drafod agweddau gweithredol ar gydweithio ag S4C – gan edrych ar brosesau ac effeithlonrwydd. 

11:20 – 11:50 – Cymraeg, Dosbarth Canol, Gwyn 
Ystafell Syndicate 
Sut gallwn ni adlewyrchu Cymru gyfoes yn well? Ymunwch â No Boundaries i herio ystrydebau, taclo’r rhwystrau i amrywiaeth, a rhoi llais i’r rhai nad ydynt fel arfer yn clywed. 

12:00 – 13:00 – Cewri’r Campau
Gan dynnu ar wersi o’r caeau chwarae, sgwrs am arweinyddiaeth, trawsnewid, a’r gwerthoedd sy’n gyrru llwyddiant gan ddau sy’n benderfynol o ddatblygu pencampwyr – ysbrydoliaeth i unrhyw dîm neu sefydliad. 

12:00    Hyfforddwr Tîm Pêl-droed Menywod Cymru, Rhian Wilkinson,  mewn sgwrs gyda Phrif Weithredwr S4C - Geraint Evans  

12:30    Hyfforddwr Tîm Pêl-droed Dynion Cymru, Craig Bellamy, mewn sgwrs gyda Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Pêl-droed Cymru

12:30 – 13:30 – Cinio 

13:30 – 14:00 – Holi’r Prif Swyddog Cynnwys 
Nest Jenkins yn cadeirio sgwrs gyda Llion Iwan am ei weledigaeth ar gyfer dyfodol comisiynau S4C.  

14:00 – 14:45 – Cnoi Cil Cynnwys Digidol 
Beth yw ystyr bod yn ddarlledwr ‘digidol yn gyntaf’? Trafodaeth fywiog ar gynnwys, llwyfannau, a’r meddylfryd digidol sy’n gosod y gynulleidfa yn gyntaf. 

15:00 – 15:45 – Dychmygu Dyfodol y Sector  
Mewn byd sy’n newid yn barhaus, sut gall cwmnïau cynhyrchu Cymru arloesi, addasu a ffynnu. Panel o arweinwyr y diwydiant yn trafod gwytnwch, modelau busnes, a newid. 

15:00 – 15:45 – AI a’r Broses Greadigol 
Ystafell Syndicate 
Sut mae AI yn effeithio ar syniadau creadigol, penderfyniadau golygyddol, a’r ffyrdd o greu a dosbarthu cynnwys? Panel yn trafod eu profiadau o ddefnyddio AI wrth gynhyrchu cynnwys. 

16:00 – 16:45 – Her a Chyfle: Creu Drama ar gyfer S4C 
Beth yw’r heriau i gwmnïau cynhyrchu ac i awduron wrth greu cyfres ddrama ar gyfer S4C? Sut mae creu cyfres sy’n taro tant gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru, a thu hwnt?