Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol

Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu arlwy o gynnwys Ffeithiol, gyda’r bwriad o ddarlledu o Haf 2026 ymlaen.

 

Mae’r arlwy ffeithiol yn ganolog i amserlen y sianel ac mae’r tendr yma yn rhoi cyfle i gwmni unigol neu i gwmnïau dod at eu gilydd i gynnig pecyn o gynnwys uchelgeisiol a chreadigol.

 

Ceisiadau i’w derbyn erbyn: 12:00 canol dydd Llun 26 Ionawr 2026

 

Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)

 

28 awr o gynnwys fydd yn cael ei rannu dros gyfnod o ddwy flynedd (14 awr y flwyddyn, i’w gyfleu yn barhaol ar draws cyfnod y Cytundeb).

 

Lleiafswm o 10 awr y flwyddyn ar gyfer darlledu llinol, a lleiafswm o 2 awr y flwyddyn i’w gyhoeddi fel cyfresi digidol yn unig ar blatfform Youtube. Rydym yn agored i dderbyn a thrafod syniadau ar gyfer gweddill yr oriau (2 awr).

Rydym yn chwilio am becyn o gynnwys ffeithiol sy’n cynnig gwerth am arian dros gyfnod o ddwy flynedd. Rhaid i’r pecyn gynnig amrywiaeth o gyfresi 30m a 60m, dogfennau sengl, cynnwys ffurf fer ar gyfer Youtube a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

 

Bydd y cynnwys yma yn cael ei ddarlledu/cyhoeddi yn llinol, ar Clic ac iplayer, ac ar draws ein platfformau digidol perthnasol. Disgwylir i’r holl gynnwys fod wedi clirio ar gyfer ei gyhoeddi ar Youtube.

 

Bydd lleiafswm o 2 awr o gynnwys yn cael ei gyhoeddi yn ddigidol yn unig ar blatfform Youtube.

Rydym yn awyddus i gael cynnwys ar draws yr ystod/genre ffeithiol ond yn benodol rydym yn chwilio am y canlynol:

  • Hanes (cof byw)
  • Ffordd o Fyw (Lifestyle)
  • Fformatau ffeithiol all ddychwelyd
  • Dogfennau unigol pwerus ar bynciau amserol
  • Straeon personol cryf

 

Rydym hefyd yn awyddus i ystyriaethau cynaladwyedd gael eu cynnwys yn y cynllun cynhyrchu / yn yr elfennau cynnwys.

 

Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)

 

Yn dilyn derbyn cwestiynau ar gyfer Tendr Pecyn Ffeithiol, gweler y ddolen isod sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau a’u hatebion: 

 

Cwestiynau ac Atebion - Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)