Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Adran Gomisiynu

Ar ôl saith mlynedd yn S4C, lle bu mewn rolau fel Comisiynydd Drama, Pennaeth Cynnwys Ysgrifenedig, ac yn fwyaf diweddar Pennaeth Ffilm a Drama, mae Gwenllian Gravelle wedi penderfynu symud ymlaen i ddilyn cyfleoedd newydd.

Bydd Gwenllian yn dod â’i chyfrifoldebau o ddydd i ddydd i ben ar 8 Medi, ond bydd ar gael mewn capasiti trosiannol i gefnogi S4C gyda’r broses o recriwtio Comisiynydd Drama a Chomisiynydd Ffilm hyd at 8 Rhagfyr.

Yn ystod ei chyfnod, mae Gwenllian wedi gwneud cyfraniad trawsnewidiol i strategaeth gynnwys ysgrifenedig ac allbwn creadigol S4C. Mae hi wedi chwarae rôl ganolog wrth lunio a chyflawni slate uchelgeisiol o ddrama a ffilm, gan adeiladu partneriaethau strategol hirdymor gyda chynhyrchwyr, dosbarthwyr a darlledwyr, a chydweddu uchelgais greadigol feiddgar ag amcanion strategol S4C i dyfu cynulleidfaoedd a chryfhau enw da’r darlledwr am gynnwys ysgrifenedig o’r safon uchaf.

Mae ei hanes comisiynu yn cynnwys nifer o gynyrchiadau nodedig: Dal y Mellt / Rough Cut, y ddrama Gymraeg gyntaf i lansio ar Netflix; Y Golau / The Light in the Hall, cyd-gynhyrchiad mawr gyda Channel 4 ac un o ddramâu mwyaf llwyddiannus y sianel; Craith / Hidden; ac yn fwyaf diweddar Cleddau / The One That Got Away, cynhyrchiad gwreiddiol cryf ei berfformiad mewn partneriaeth â’r dosbarthwr rhyngwladol Banijay.

Mae ei gwaith wedi’i gydnabod yn eang ar draws y diwydiant, gan ddenu nifer o wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Broadcast, C21, RTS, BAFTA a’r International Rockie Awards. Bu hefyd yn allweddol wrth sefydlu Sinema Cymru, menter strategol a gynlluniwyd i adfywio’r sector ffilm Gymraeg drwy gomisiynu ffilm nodwedd flynyddol ar gyfer ei rhyddhau mewn sinemâu ac ar S4C.

Mae cyfraniad Gwenllian wedi helpu i ddiffinio cyfnod newydd o uchelgais i ddrama a ffilm Gymraeg, gan gryfhau ei chyrhaeddiad creadigol a’i phroffil rhyngwladol.

Mae’n bwriadu cysylltu’n uniongyrchol â’r cwmnïau y mae’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd i sicrhau parhad llyfn ar draws prosiectau sy’n weithredol.

Hoffem ddiolch iddi am ei chyfraniad rhagorol a dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.