Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Penodi Guto Rhun fel Comisiynydd Cynnwys Digidol S4C

Mae Guto Rhun wedi ei benodi’n Gomisiynydd Cynnwys Digidol S4C – rol newydd gyda chyfrifoldeb am ddatblygu a chyfleu cynnwys ddigidol ac aml blatfform y darlledwr. Bydd yn gweithio ar draws S4C a’r sector cynhyrchu i gomisiynu cynnwys creadigol ar gyfer platfformau digidol, cryfhau presenoldeb S4C ar lwyfannau fel YouTube, a denu cynulleidfaoedd newydd.  

Bydd y rôl newydd yma yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ‘Mwy na Sianel’ S4C, gan ehangu cyrhaeddiad cynnwys Cymraeg y tu hwnt i deledu traddodiadol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd lle maent yn gwylio cynnwys, a sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn berthnasol mewn byd digidol sy’n esblygu’n gyflym. 

Mae gan Guto brofiad helaeth fel Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cynnwys digidol y sefydliad. Trwy Hansh a chynyrchiadau fel Bar Hansh, GISDA: Drws I’r Digartref, Teth a Gwagle, mae wedi ehangu cyrhaeddiad S4C ymhlith cynulleidfaoedd iau wrth feithrin talent a lleisiau newydd, a phrofi ffyrdd arloesol o gyflwyno cynnwys Cymraeg i gynulleidfaoedd. 

Meddai Guto am yr apwyntiad: "Dwi’n hynod gyffrous i gael y cyfle i ymgymryd â’r rôl yma. Dwi wedi cael y fraint dros y blynyddoedd diwethaf o weithio gyda phobl greadigol ac uchelgeisiol, arloesi a rhoi cynnig ar syniadau newydd wrth ehangu cyrhaeddiad S4C.  

"Mae’r byd digidol yn newid yn gyflym, ac rwy’n gweld hynny fel cyfle enfawr. Dwi eisiau parhau i annog creadigrwydd ac uchelgais, gan greu cynnwys sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd heddiw a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ar y llwyfannau maen nhw’n eu defnyddio." 
Ychwanegodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae penodiad Guto yn gam pwysig wrth wireddu ein gweledigaeth Mwy na Sianel, gan sicrhau bod S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd lle bynnag y maent yn gwylio cynnwys ac yn cryfhau presenoldeb y Gymraeg ar y platfformau digidol pwysicaf."