Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Gwahoddiad i Dendr: Cân i Gymru

Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu Cân i Gymru o 2028 am ddwy flynedd, gyda opsiwn o ddwy flynedd arall hyd at ac yn cynnwys 2031. 

Rydym yn gofyn i gwmnïau feddwl am y pecyn mewn modd ffres a dyfeisgar gan gynnig bywyd newydd i’r arlwy, heb golli naws boblogaidd y gystadleuaeth. 

Mae’r digwyddiad blynyddol ar benwythnos Gŵyl Ddewi ac yn un o binaclau adloniant y Sianel.  Rydym am esblygu yr achlysur i ddenu y gorau o gyfansoddwyr a perfformwyr y wlad i gystadlu. 

Cwestiynau tendr erbyn 12.00 canol dydd Mawrth 20 Hydref 2026

Amser Cau derbyn y ceisiadau: 12.00 canol dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026

Cyfweliadau (os oes angen): Wythnos 14 Rhagfyr 2026

(Sylwer bod gan S4C yr hawl i newid y dyddiadau uchod)