Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Rotterdam Lab 2027 – Cyfle i Gynhyrchydd Ffilm

Mae S4C yn gwahodd ceisiadau i un cynhyrchydd i fynychu Rotterdam Lab yn ystod Gŵyl Ffilm Ryngwladol Rotterdam, rhwng 29 Ionawr a 3 Chwefror 2027.

Mae Rotterdam Lab yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ryngwladol ar gyfer cynhyrchwyr newydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys pum diwrnod llawn o ddosbarthiadau meistr, sesiynau panel, trafodaethau bwrdd crwn, gweithdai ac astudiaethau achos, gyda mwy na 45 o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn siaradwyr gwadd. Mae'r rhaglen yn ymdrin â chylch bywyd cyfan ffilm – o'r camau datblygu cynnar i'r premiere a'r broses ddosbarthu – gyda chyd-gynhyrchu wrth ei galon.

Drwy Sinema Cymru – cynllun a gefnogir gan S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Creadigol – rydym am gefnogi cynhyrchwyr sydd â synnwyr creadigol clir ac uchelgais i ddatblygu sinema yn yr iaith Gymraeg.

Rydym yn ymwybodol bod y cyfle hwn wedi codi ar fyr rybudd; felly rydym wedi cadw'r gofynion yn gryno ac yn gymesur â'r amser sydd ar gael.

Pwy ddylai ymgeisio?

Croesawn geisiadau gan gynhyrchwyr sydd yn gweithio'n annibynnol neu drwy gwmni cynhyrchu yng Nghymru, sydd yn datblygu portffolio o ffilmiau ac yn dymuno cryfhau eu dealltwriaeth o ariannu rhyngwladol, cyd-gynhyrchu, gwerthu a dosbarthu. Efallai bod gennych brofiad blaenorol o gynhyrchu ffilmiau, neu efallai eich bod ar fin cynhyrchu eich ffilm nodwedd gyntaf ar ôl gweithio mewn cyfrwng arall.

Dylai ymgeiswyr enwebu un cynhyrchydd unigol i fynychu.

Ni all cynhyrchwyr sydd wedi mynychu Rotterdam Lab yn y gorffennol wneud cais.

Beth i'w gyflwyno

Cyflwynwch un ffeil PDF sydd yn cynnwys y canlynol:

  • Bywgraffiad byr o'r cynhyrchydd – hyd at 250 gair. Amlinellwch eich profiad ar brosiectau perthnasol. Gallwch gynnwys dolenni i waith sydd wedi'i gwblhau, gan ddarparu cyfrinair lle bo angen.
  • Bywgraffiad byr o'r cwmni, os yw'n berthnasol – hyd at 150 gair. Disgrifiwch ffocws y cwmni a'u gwaith diweddar.
  • Manylion am hyd at dair ffilm nodwedd (nid dogfen) sydd wrthi'n cael eu datblygu. Ar gyfer pob un, nodwch y teitl, crynodeb byr (logline) o hyd at 25 gair, crynodeb (synopsis) o hyd at 200 gair, yr iaith, y genre, a'r sefyllfa datblygu bresennol. Nodwch unrhyw awdur, cyfarwyddwr neu bartneriaid sydd ynghlwm â'r prosiect.
  • Datganiad o ddiddordeb – hyd at 400 gair. Ymatebwch â'r pwyntiau canlynol; mae croeso i chi ddefnyddio paragraffau byrion neu bwyntiau bwled:
    • Pa ffilmiau a gwneuthurwyr ffilm sydd yn eich ysbrydoli, a sut mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gwaith rydych chi'n dewis ei ddatblygu?
    • Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y ffilmiau nodweedd rydych chi'n eu datblygu?
    • Pam mai Rotterdam Lab yw'r cyfle cywir i chi ar hyn o bryd? Pa fylchau o ran profiad neu berthnasoedd proffesiynol y gallai helpu i'w llenwi, a sut byddwch chi'n rhoi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar waith?
  • Eich manylion cyswllt a chadarnhad y gallwch fynychu'r rhaglen gyfan.

Nid oes angen cyflwyno cyflwyniadau prosiect (pitch decks), triniaethau na deunyddiau ategol eraill.

Sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu

Bydd y cynhyrchydd llwyddiannus yn cael ei dewis yn dilyn asesiad ar y cyd gan S4C, Cymru Creadigol a Ffilm Cymru. Byddwn yn ystyried potensial y prosiectau’r ymgeisydd, ynghyd â sut y gallai cymryd rhan hybu eu gyrfa fel cynhyrchydd a chryfhau sinema yn yr iaith Gymraeg.

Cefnogaeth a phresenoldeb

  • Bydd Sinema Cymru yn talu’r ffi mynychu, sydd yn cynnwys llety am chwe noson mewn gwesty sydd yn rhan o’r ŵyl, mewn ystafell defnydd unigol.
  • Bydd costau teithio a chostau cysylltiedig yn cael eu talu yn unol â pholisi teithio a threuliau S4C.
  • Bydd y cynhyrchydd llwyddiannus yn derbyn bathodyn achredu CineMart.
  • Byddant hefyd yn cael eu crybwyll mewn nifer o gyhoeddiadau ar-lein IFFR Pro ac yn y ‘Rotterdam Lab Reader.’

Manteision Bathodyn Cinemart:

  • Hyd at 20 tocyn ffilm ar gyfer rhaglen yr ŵyl
  • Digwyddiadau ‘Darkroom Spotlight’
  • Cyfarfodydd wedi’u trefnu gyda’r prosiectau sydd yn y farchnad
  • ‘Pro Connect’: y cyfeiriadur o fynychwyr proffesiynol
  • Cinio rhwydweithio CineMart bob dydd
  • Diodydd rhwydweithio i’r diwydiant (IFFR Pro) bob dydd
  • Parti i wneuthurwyr ffilm a pharti i’r diwydiant (‘Pro Industry Party’)

Sut i wneud cais

Anfonwch eich cais drwy e-bost at syniad@s4c.cymru, gan ddefnyddio’r teitl “Rotterdam Lab 2027 - Cais.”

Dyddiad cau: 12:00 hanner dydd ddydd Llun16 Tachwedd 2026.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am y canlyniad drwy e-bost erbyn dydd Mercher, 18 Tachwedd fan bellaf.  Mae S4C yn cadw’r hawl i beidio gwobrwyo’r lle.

Bydd gofyn i’r cynhyrchydd llwyddiannus gadarnhau eu bod ar gael ar gyfer y rhaglen lawn, a chytuno ar delerau cyfranogi gydag S4C.

Rotterdam Lab 2027 – Cyfle i Gynhyrchydd Ffilm (PDF)