Oherwydd problemau hawliau, nid yw'n holl raglenni ar gael ar S4C Clic ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae darpariaeth eang ar gael drwy wasanaeth S4C Clic eisoes a bwriadwn ymestyn y gwasanaeth hwn. Os ydych yn cael problemau technegol gwylio cynnwys sydd ar S4C Clic, cysylltwch â gwifren@s4c.cymru
Mae sefyllfa hawliau yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Rydym wastad yn ceisio sicrhau fod hawliau i ddangos ledled y byd - ond nid yw hynny bob tro yn bosib.
I dderbyn S4C y tu allan i Gymru, gallwch wneud hynny drwy loeren Sky ar sianel 134 (nid oes angen tanysgrifio i becynnau SKY i dderbyn y sianel), neu drwy wasanaeth Freesat ar sianel 120, neu Virgin Media 166. Hefyd gallwch wylio yma www.s4c.cymru/clic neu drwy lawrlwytho ap S4C Clic.
Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C os gwelwch yn dda.
Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni yn fewnol. Mae rhaglenni Prynhawn Da / Heno sy'n ymddangos ar S4C yn adrodd straeon lleol. Tinopolis sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C a gellir cysylltu â hwy gan ddefnyddio'r cyfeiriad yma - Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE neu ffonio 01554 880 880 neu e-bostio info@tinopolis.com
Yn anffodus nid yw S4C yn gallu darparu copïau o raglenni ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Mae rhaglenni sydd o werth addysgiadol ar gael ar Hwb Llywodraeth Cymru.
Mae S4C yn awyddus i gynnig sylwebaeth Saesneg pan mae'r sefyllfa hawliau'n caniatáu. Yn anffodus nid yw hynny wastad yn bosib. Os oes cwestiwn am gêm benodol plîs cysylltwch â gwifren@s4c.cymru