
Mwy o wybodaeth: Sut i wylio S4C.
Oherwydd problemau hawliau, nid yw'n holl raglenni ar gael ar S4C Clic ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae darpariaeth eang ar gael drwy wasanaeth S4C Clic eisoes a bwriadwn ymestyn y gwasanaeth hwn. Os ydych yn cael problemau technegol gwylio cynnwys sydd ar S4C Clic, cysylltwch â gwifren@s4c.cymru.
Mae sefyllfa hawliau yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Rydym wastad yn ceisio sicrhau fod hawliau i ddangos ledled y byd - ond nid yw hynny bob tro yn bosib. Here is a link to our available Worldwide website: s4c.cymru/clic/Categories/99
Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni. Mae gan S4C tim newyddiadurol sydd yn gweithio ar app Newyddion S4C cyfeiriad e-bost ar gyfer y tim yw newyddion@s4c.cymru . Cysylltwch â'r BBC ar gyfer ein gwasanaeth newyddion teledu drwy newyddion9@bbc.co.uk neu 02920 322 257. Mae Heno yn cynnwys nifer o straeon o bob cwr o Gymru. Gallwch gysylltu â nhw drwy heno@tinopolis.com neu 01554 880880 os yw'r digwyddiad yn y de neu 01286 685 246 os yw'r digwyddiad yn y gogledd.
Yn arferol mae S4C yn sicrhau hawliau darlledu Cymraeg yn unig. Pan ar gael rydym yn manteisio ar hawliau iaith Saesneg ac yn cynnig sylwebaeth ar y "botwm coch" ond nid yw hynny'n bosib ym mhob achos.
Dyma linc i wefan gyda cymorth i dderbyn sylwebaeth Saesneg pan mae hawliau yn caniatau: Canllaw i Newid Sylwebaeth Saesneg ar S4C pan fydd Hawliau yn Caniatáu
Y ffordd orau i wneud hyn yw drwy greu Cyfrif S4C Clic, neu cofrestru i gylchlythyron S4C.
Nid yw S4C yn darparu copïau o raglenni ar gyfer aelodau'r cyhoedd ac eithrio bod prawf mai ar gyfer defnydd addysgol sydd eu hangen. Os oes gennych brawf, dylid cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C i gychwyn os gwelwch yn dda.