S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bwyd Epic Chris

Cebab Cig Dafad

I 'neud y marinade, dw i'n tostio hadau caraway, fennel, hadau coriander, hadau cumin a tsilis 'bird's eye' nes bod nhw'n popio fel popcorn.

Wedyn, dw i'n rhoi dail bae mewn pestle & mortar efo 'chydig o halen a greindio nhw efo'r sbeisys cyn ychwanegu olive oil.

Wedyn, dw i'n rhoi'r marinâd ar y cig dafad a massajio fo i mewn. Tra mae hwnna'n gorffwys, dw i am sortio'r flatbread allan.

Dw i 'di gneud y toes yn barod efo dŵr, blawd, halen a burum. Gwasgu'r toes i siâp a'i osod ar y tân. Unwaith mae o'n cychwyn byblo, mae o'n barod am fflip bach.

Iawn ta, amser prepio'r cebab wan. Dw i methu cael cebab heb sides cŵl, so dw i'n llosgi pupur a tsilis ar y tân a torri nhw i fyny efo olew olewydd a mint.

Dw i'n piclo tsilis efo finegr gwin gwyn a siwgr, a sialots efo olew olewydd, finegr gwin coch a 'chydig o halen.

Am y 'crunch' 'na, dw i'n sleisio cabaets coch yn denau cyn rhoi'r cig dafad ar y tân. I gadw'r cig yn jiwsi-jiwsi, dw i'n bastio nhw efo brwsh rhosmari, menyn a 'chydig o'r marinâd oedd dros ben. Pan mae'r cig yn barod, rhowch bob dim ar blât a tyciwch mewn!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?