S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bwyd Epic Chris

Calzone Wagyu Chopped Cheese

Intro: 'Nesh i ddysgu sut i 'neud 'chopped cheese' gan fy ffrind newydd, brenin caws 'di chopio, Sibs aka Wavy Savory aka perchennog SHMACKWICH yn Efrog Newydd. Dyma'n nhwist i ar ddau NY classic - 'dwi 'di cyfuno chop cheese efo pizza i 'neud calzone NEXT LEVEL!'

Cynhwysion

  • x2 pati bîff wagyu
  • Halen
  • Caws: Provolone, sleisys rhad caws Americanaidd, a Cheddar
  • Sôs Worcestershire
  • Stoc cig eidion
  • Toes pizza
  • Tomatos tun
  • Sôs sbeislyd
  • Sôs byrgyr
  • Picls
  • Nionyn

Dull

  1. Yn gynta' dw i'n ffrio patis wagyu efo 'chydig o halen yna torri nhw yn y pan, tynnu off y gwres unwaith mae'r cig wedi coginio.
  2. Mewn efo'r caws: Provolone gynta, wedyn sleisys o gaws Americanaidd rhad 'neith fynd yn gooey lyfli, yna Cheddar am flas hallt.
  3. Ychwanegu joch o Worcestershire sauce, yna nôl ar y gwres i doddi.
  4. Dwi'n deglazio efo mymryn o stoc cig eidion a gadael iddo oeri cyn llenwi'r calzone.
  5. I'r toes, dw i'n defnyddio toes pizza o siop Sibs, Shmackwich.
  6. Dw i'n stretchio'r toes allan a rhoi digon o'r cig eidion cawslyd tu mewn, ychwanegu 'chydig o domatos o'r tun a mwy o gaws cyn cau'r calzone i fyny.
  7. Mewn i'r popty! Dwi'n defnyddio Gozney roccbox fi - ma hwn yn cwcio'n gyflym. Fedrwch chi ddefnyddio popty ar y tymheredd uchaf mae o'n mynd i goginio'r calzone.
  8. Cadwch lygad arno fo - 'ma smotia' llewpart 'ma'n sein bod y toes 'di fermention'n dda.
  9. Allan o'r tân, ar y plât, a'i dorri'n hanner.
  10. Dwi'n lyfio hwn efo sôs sbeislyd, sôs byrgyr, picls a nionyn. CHOP, CHOP BABY!!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?