Rhyngwladol

Rhyngwladol

    Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

    Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif. Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

    Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

    Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau. Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma

    Ar gael nawr

      • Anifeiliaid Sw 2

        Caban Banana Gareth

        Mae Gareth yr Orangutan yn teithio ysgolion ledled Cymru yn ei Gaban Banana, Anifeiliaid y Sw ydi'r pwnc trafod heddiw.

      • Ne-wff-ion

        Ne-wff-ion

        Mae ein gohebydd Myla wedi rhuthro i Wersyll yr Urdd Bae Caerdydd heddiw gan fod Mr Urdd yn sownd yn y lifft!

      • Golchi Trên

        Oli Wyn

        Ydych chi erioed wedi pendroni beth sy'n digwydd i drên ar ôl gorffen siwrnai hir' Heddiw, mae'r criw trenau am ddangos i ni sut maen nhw'n paratoi trên ar gyfer siwrnai arall.

      • Cymru

        Ein Byd Bach Ni

        Dewch ar daith o gwmpas y byd. Heddiw, rydyn ni'n aros yn agos at adref achos ein bod ni yng Nghymru! Dyma wlad gyda heniaith sef y Gymraeg, cestyll, bwyd enwog fel bara lawr a phrifddinas o'r enw Caerdydd.

      • Tedi

        Dreigiau Cadi

        Mae pob plentyn sy'n teithio ar y trên gyda'u tedis, yn derbyn siocled poeth. Mae Cadi'n darganfod fod un ferch fach wedi colli ei thedi. Mae Bledd a Cef yn mynd i chwilio amdano, ond gall y dreigiau ddod â'r tedi yn ôl at ei berchennog cyn i Crugwen arllwys y siocled poeth'

      • Hedyn bach Hud

        Nos Da Cyw

        Sh! Mae'r haul yn mynd i'w wely ac mae'n amser i ni gael stori fach cyn cysgu. Heddiw Meilir Rhys Williams sy'n darllen stori, Hedyn bach hud.

      • Llanberis

        Radio Fa'ma - Cyfres 2

        Tara Bethan a Kris Hughes sy'n sgwrsio gyda phobl Cymru am brofiadau sydd wedi effeithio ar eu bywydau.

      • Sigldigwt

        Sigldigwt

        Ysgol Pwll Coch sy'n help yng Ngwesty Sigldigwt heddiw a byddwn yn cwrdd ag Annie a Megan sy'n berchen ceffylau.

      Ein Cylchlythyr

      • Cylchlythyr Rhyngwladol S4C

        Cylchlythyr Rhyngwladol S4C

        Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

        Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

        Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.