Ar ba sianel deledu mae S4C? Yng Nghymru: Freeview (4), S4C HD (104) Sky (104) Virgin Media TV (104) Freesat (104) Freely (4), HD DTT (62), SD DTT (236) Yn Lloegr, yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon: Sky (134) Virgin Media TV (164) Freesat (120) Freely (77) - Ar-lein yn unig Y diweddaraf gyda S4C Clic Mae ap S4C Clic nawr ar gael ar Freely, gyda mwy o wybodaeth ar gael fan hyn: Dyfeisiau a setiau clyfar + Teledu clyfar .
Gyda chwaraeon, dramâu, dogfennau a mwy, mae digon o gynnwys i chi fwynhau ar S4C Clic .
Ydy S4C ar gael ar-lein? Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio y tro nesaf.
Mwynhewch rhaglenni S4C yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.
1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.
2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!
Pa ddyfeisiau alla’i ddefnyddio i wylio S4C? Teledu clyfar Teledu clyfar sy'n galluogi gwylio drwy ap S4C Clic.
Dyfeisiau a setiau clyfar Setiau clyfar, dyfeisiau ffyn a chastio.
Dyfeisiau symudol Lawrlwytho'r ap i ddyfais symudol.
Cyfrifiaduron a gliniaduron Gwasanaethau Mynediad Isdeitlau Saesneg Mae'r isdeitlau yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg a phobl f/Fyddar.
Isdeitlau Cymraeg Mae'r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ac i bobl f/Fyddar Cymraeg eu hiaith i fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.
Sain ddisgrifio Mae gwasanaeth sain ddisgrifio ar gael ar gyfer y deillion a'r rhannol ddall. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys disgrifiadau ychwanegol sy'n cyfoethogi mwynhad y gwyliwr.
Arwyddo Mae rhai rhaglenni ar S4C yn cael eu dangos gydag arwyddwr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn. Gwyliwch ein cynnwys gydag iaith arwyddo ar S4C Clic .
Dilynwch S4C ar Gyfryngau Cymdeithasol