Mae ap S4C Clic nawr ar gael ar Freeview Play, gyda mwy o wybodaeth ar gael fan hyn: Dyfeisiau a setiau clyfar + Teledu clyfar.
Gyda chwaraeon, dramâu, dogfennau a mwy, mae digon o gynnwys i chi fwynhau ar S4C Clic.
Mwynhewch raglenni S4C yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.
Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio y tro nesaf.
1. Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.
2. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.
3. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C.
4. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!
Mae'r isdeitlau yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg a phobl f/Fyddar.
Mae'r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ac i bobl f/Fyddar Cymraeg eu hiaith i fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.
Mae gwasanaeth sain ddisgrifio ar gael ar gyfer y deillion a'r rhannol ddall. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys disgrifiadau ychwanegol sy'n cyfoethogi mwynhad y gwyliwr.
Mae rhai rhaglenni ar S4C yn cael eu dangos gydag arwyddwr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn.