
Sylwebaeth Saesneg ar S4C Clic a BBC iPlayer
Ar gyfer rhaglenni lle mae sylwebaeth Saesneg ar gael, gellir gwylio rhain ar wasanaeth S4C Clic neu (fel arfer) BBCiPlayer.
Ar dudalen S4C ar BBCiPlayer, pan fydd opsiwn o sylwebaeth Saesneg ar gael bydd yn ymddangos o dan ‘Featured on S4C’ gyda ‘English Commentary’ wedi nodi yn y teitl.
Nodir bod y gwasanaeth yma ddim ond ar gael ar gyfer darllediad byw nid ar alw
Sylwch y gall systemau dewislen amrywio yn dibynnu ar eich dyfais. Dyma ganllawiau cyffredinol ar gyfer newid iaith y sain ar Sky Q:
Nodyn: Sicrhewch fod Sain Ddisgrifio wedi'i ddiffodd. Unwaith y gwneir hyn, dylai sylwebaeth eich iaith ddymunol actifadu'n awtomatig heb unrhyw fewnbwn pellach. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar unrhyw un o'ch sianeli eraill.
Sylwch y gall systemau dewislen amrywio yn dibynnu ar eich dyfais. Dyma ganllawiau cyffredinol ar gyfer newid iaith sain ar Virgin TiVo:
Nodyn: Saesneg yw'r iaith sain ddiofyn ar Virgin TiVo. Fodd bynnag, gan fod S4C yn darlledu yn Gymraeg fel rheol, efallai y bydd angen i chi ddewis eich iaith ddymunol â llaw.
Sylwch y gall systemau dewislen amrywio yn dibynnu ar eich dyfais. Dyma ganllawiau cyffredinol ar gyfer newid iaith sain ar Sky Glass:
Sylwch y gall systemau dewislen amrywio yn dibynnu ar eich derbynnydd Freesat. Dyma ganllawiau cyffredinol ar gyfer newid iaith y sain:
Nodyn: Saesneg yw'r iaith sain ddiofyn ar Freesat. Fodd bynnag, gan fod S4C yn darlledu yn Gymraeg fel rheol, efallai y bydd angen i chi ddewis eich iaith ddymunol â llaw.
Sylwch y gall y ddewislen amrywio yn dibynnu ar wneuthurwr eich teledu. Dyma ganllawiau cyffredinol ar gyfer newid iaith y sylwebaeth ar Freely:
Nodyn: Os ydych chi'n gwylio S4C ar Freely am y tro cyntaf, mae'n bosibl y bydd sylwebaeth Saesneg wedi'i gosod fel yr iaith ddiofyn. I newid i sylwebaeth Gymraeg, dilynwch y camau uchod a dewiswch "Welsh" (neu "Cymraeg") yng ngham 6.
Mae newid iaith y sain ar Freeview yn syml. Pwyswch y Botwm Coch ar eich teclyn teledu a dewiswch eich iaith ddymunol.
Mae newid iaith y sain ar Sky+ yn syml. Pwyswch y Botwm Coch ar eich teclyn teledu a dewiswch eich iaith ddymunol.
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau neu broblemau wrth actifadu'r sylwebaeth Saesneg ar S4C ar unrhyw blatfform gallwch gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.