Swyddi

Swyddi

Prif Swyddog Technegol

 

Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae S4C yn chwilio am Brif Swyddog Technegol, i chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni ein strategaeth ddigidol a thechnolegol i gefnogi ein cenhadaeth a'n twf yn y dyfodol. Mae hon yn swydd arwain allweddol, a bydd ei deiliad yn gyfrifol am sbarduno arloesedd, sicrhau seilwaith technoleg cadarn a diogel, a gofalu bod atebion technegol yn cyd-fynd â nodau busnes. Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sydd ag arbenigedd technegol cryf a meddylfryd cydweithredol, person a fydd yn gallu ysbrydoli timau, rheoli partneriaethau technoleg allweddol a'n helpu ni i ddefnyddio technoleg i wasanaethu ein cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.

Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ond byddent yn fanteisiol. Rydym yn falch o fod yn ddarlledwr Cymraeg ac rydym yn disgwyl i holl aelodau'r tîm werthfawrogi a pharchu'r iaith a'r diwylliant. Rydym yn cefnogi ac yn annog dysgu Cymraeg yn y gweithle, ac rydym yn chwilio am rywun sy'n agored i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o'r iaith fel rhan o'u taith gyda ni.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl neu os oes gennych chi gwestiynau am y penodiad, cysylltwch â nia@effectusHR.com a fydd yn hapus i drefnu galwad.

I wneud cais, anfonwch e-bost at nia@effectusHR.com erbyn 10yb ar ddydd Llun 7 Gorffennaf 2025 gyda:

  • Eich CV (dim mwy na thair ochr).
  • Datganiad ategol (dim mwy na dwy ochr) sy'n nodi pam rydych chi'n meddwl mai hon yw'r rôl gywir i chi a sut rydych chi'n cwrdd â'r meini prawf sydd wedi nodi yn y disgrifiad swydd, gan ddarparu enghreifftiau perthnasol.

Rydym yn gweithio'n unig gyda effectusHR ar y swydd hon ac ni fyddwn yn derbyn CVs, ymholiadau nac awgrymiadau digymell gan asiantaethau eraill. Bydd unrhyw CV a gyflwynir y tu allan i'r trefniant hwn yn cael ei ystyried yn un digymell ac ni fydd yn gymwys am unrhyw ffi asiantaeth.

Manylion Swydd

Pecyn Gwybodaeth