Swyddi

Swyddi

Swyddog Materion Busnes

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Materion Busnes.

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn rhan allweddol o dîm sy’n gweithredu’n ymarferol, gan ddarparu cefnogaeth i’r tîm gomisiynu yn effeithiol ar gyfer yr holl gynnwys aml-lwyfan sy’n ymddangos ar wasanaethau S4C bob blwyddyn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Materion Busnes, cwmnïoedd cynhyrchu, yr adran cyfreithiol i allu gweithredu rhaglen o syniad i gael ei ddarlledu fel rhaglen ar sawl gwahanol blatfform.

Mae hon yn rôl sy'n hynod bwysig ac yn weladwy iawn gyda cwmnïoedd cynhyrchu a’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y diwylliant i allu cydweithio yn effeithiol a gweithredu ar syniadau.

Manylion Eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog: £30,000 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 2 Mawrth 2026  at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Dyddiad Cyfweliad: Wythnos yn cychwyn 9 Mawrth 2026.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth