Swyddi

Swyddi

Swyddog Gweithredol / Cymorth Prosiect

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Mae hyn yn amser cyffroes i ymuno a’r team prosiect BSM i cydlynnu cyflwyniad o’r prosiect fydd yn siapio dyfodol o darlledu yng Nghymru. Rydym yn edrych am unigolyn drefnus, cydweithredol, sydd yn cael ei yrru gan ganlyniadau ac sydd â brwdfrydedd dros gyflawni newid sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant darlledu.

Trosolwg o’r Swydd

Bydd rôl y Swyddog Gweithredol / Cymorth Prosiect yn darparu cymorth gweinyddol, cydlynu a gweithredol i’r rhaglen BSM wrth iddynt gynllunio a chyflwyno llwyfan BSM newydd. Mae’r rôl yn allweddol i sicrhau llywodraethu effeithiol, gweithrediadau rhaglen ddi-dor bob dydd, a chynorthwyo gyda chyfathrebu clir rhwng rhanddeiliaid technegol, busnes, a gweithredol.

Mae'r feddalwedd BSM wedi'i hysgrifennu yn Delphi ac mae wedi'i haddasu'n helaeth er mwyn ei theilwra ar gyfer gofynion penodol S4C. Yn ogystal â'r feddalwedd graidd, mae dau gynnyrch pellach wedi'u datblygu gan S4C:

Cwmwl: A ddefnyddir i gyflwyno syniadau rhaglenni i S4C a dilyn cyflwyniad llwyddiannus i'r cam contract.

PAC (Programme as Completed): Defnyddir hwn i gasglu data gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglen, er enghraifft, casglu data am y gerddoriaeth a ddefnyddir i’w adrodd i PRS.

Mae S4C wedi penderfynu bod angen mwy o feddalwedd berchnogol i ddarparu'r swyddogaethau hyn er mwyn gwneud cefnogaeth yn fwy cadarn a pheidio â bod mor ddibynnol ar system bwrpasol.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerdydd, Caernarfon neu Caerfyrddin, ond bydd disgwyliad i chi fynychu swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd 2-3 diwrnod yr wythnos.

Cyflog: £38,000

Cytundeb:  12 mis secondiad i ddechrau

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn bresennol yn Yr Egin, Caerfyrddin yn rheolaidd, yn ogystal â theithio'n achlysurol o fewn Cymru.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun, 30 Mawrth 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn cychwyn 6 Ebrill 2026

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth