Swyddi

Swyddi

Pennaeth Marchnata

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno â S4C?

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Marchnata ysbrydoledig i arwain ar waith hyrwyddo, ymgysylltu a datblygu brand S4C ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu.  

Mewn tirwedd ddarlledu gystadleuol, aml-blatfform, mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o frand a hyrwyddo gyda’r angerdd am ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd a chreu ymgyrchoedd sy’n dal sylw a denu gwylwyr newydd.

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd sy’n gofyn i aelodau staff fod:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C ar ddechrau pennod newydd yn ei hanes dan ofal Prif Weithredwr a Chadeirydd newydd. Bydd disgwyl i chi gyfrannu at lwyddiant ein strategaeth newydd bum mlynedd gan arwain a gweithredu cynllun marchnata newydd er mwyn helpu tyfu cynulleidfaoedd, codi proffil a gwella canfyddiad S4C mewn hinsawdd gystadleuol iawn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac sydd â gweledigaeth ddigidol arloesol i ymgysylltu a chreu argraff gyda chynulleidfaoedd newydd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, byddwch yn gyfrifol am arwain timau o unigolion creadigol sy’n meddu ar arbenigaethau amrywiol - tîm marchnata sy’n trefnu a chydlynu ymgyrchoedd hyrwyddo ar draws platfformau a thîm creadigol sy’n cynhyrchu asedau hyrwyddo ar gyfer S4C a’i ystod o ymgyrchoedd cynnwys - wedi'i ysbrydoli gan strategaeth hyrwyddo S4C.

Fel Pennaeth Marchnata, byddwch yn rhan allweddol o dîm o benaethiaid sy’n gyfrifol am hyrwyddo S4C a’i holl gynnwys - gan gyd-weithio’n agos gyda’r Pennaeth Cyfathrebu a’r Pennaeth Digidol i sicrhau ymgyrchoedd integredig llwyddiannus - yn ogystal â’r Pennaeth Ymchwil ar gyfer mewnwelediadau am ein cynulleidfaoedd.

Gyda chefnogaeth eich arweinwyr tîm, byddwch yn gyfrifol am weithredu cynllun marchnata uchelgeisiol er mwyn gwireddu amcanion ein strategaeth hyrwyddo gan ddatblygu arloesedd digidol yn y maes marchnata i sicrhau llwyddiant wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu gwylio.

Mae hon yn rôl bwysig ac yn weladwy iawn o fewn a thu allan i’r sefydliad. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf o fewn y sector gyda chwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid cenedlaethol eraill. O fewn S4C, byddwch yn cydweithio’n agos gyda chyfeillion ar draws y cwmni gan wreiddio’n Cod Diwylliant ymhob rhan o’r gwaith ac ymddygiad gan hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)

Cyflog: £63,457.00 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9yb 31 Mawrth 2026 i Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Dyddiad Cyfweliadau: 21 Ebrill 2026, lleoliad i'w gadarnhau.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth