
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n Tîm Cyllid dros dro.
Trosolwg y Swydd
Byddwch yn gyfrifol am weithgareddau rheoli costau cynnwys ac adroddiadau cyllidebol gan gynnwys darparu cyngor proffesiynol i alluogi penderfyniadau gwybodus i gael eu wneud.
Byddwch yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein hamcenion corfforaethol a’n rhagoriaeth greadigol gan sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol a’n hymrwymiadau strategol.
Sylwer bod y rôl hon wedi’i bwriadu ar gyfer cyfrifydd cymwysedig. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu arbenigedd technegol ym maes cyfrifeg a chefnogaeth i’r tîm Cyllid ehangach.
Gall fod hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau a phrosiectau nad ydynt wedi’u nodi’n benodol yn y disgrifiad swydd hwn er mwyn cefnogi gweithrediad effeithiol a gwelliant parhaus y swyddogaeth Gyllid. Fodd bynnag, caiff y disgrifiad swydd hwn ei ddiwygio a’i adolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol sy’n briodol.
Manylion eraill
Lleoliad: Un o swyddfeydd S4C: Yr Egin Caerfyrddin, Sgwâr Canolog Caerdydd neu Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa). Gall fod angen presenoldeb ychwanegol yn y swyddfa yn ystod y cyfnod hyfforddi a sefydlu cychwynnol. Bydd disgwyl i chi fynychu/gweithio o swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.
Cyflog: £42,000 y flwyddyn
Cytundeb: Dros Dro 12 mis (Cyfnod Mamolaeth)
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 5 or gloch ar 23 Hydref 2026 at ebost pobl@s4c.cymru.
Dyddiad Cyfweliad: 3 Tachwedd 2026. Lleoliad i'w cadarnhau.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.