Tendrau

Tendrau

Archif Tendrau 2021 - 2023

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer darparu Gwasanaeth Prynu Cyfryngau a Cyfryngau Cymdeithasol Taledig

    Mae S4C yn ceisio ymrwymo i un cytundeb neu fwy ar gyfer cyflenwi'r gwasanaethau canlynol. Gwahoddir tendrau ar gyfer 'lots' unigol (contract) neu am gyfuniad o 'lots' (pecynnau) fel y nodir isod.

    Lot 1: Cynghori, cynllunio, archebu ac adolygu ymgyrchoedd cyfryngau i hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau S4C

    Lot 2: Cynghori, cynllunio, archebu ac adolygu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol taledig i hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau S4C

    Dogfen yma: Dogfen Word - Gwahoddiad i Dendro

    Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2023

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 03 Tachwedd 2023 12:00yp

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 17 Tachwedd 2023 12:00 yp

  • ​Tendr ar gyfer Cytundebau Fframwaith Cyfieithu

    Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cyfieithu. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau Tendr yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Tendr i S4C yw canol dydd, dydd Mercher 04ydd o Hydref 2023.

    Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr yw canol dydd, dydd Mercher 20fed o Fedi 2023.

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer darparu rhaglen trawsnewid sefydliadol

    Mae S4C yn ceisio ymrwymo i gytundeb ar gyfer darparu gwasanaeth ymgynghorol dwyieithog ar gyfer darparu rhaglen trawsnewid sefydliadol.

    Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2023

    Cliciwch y botwm isod am ragor o wybodaeth.

  • Gwahoddiad i Dendro ar Gyfer Gwaredu Tapiau o Lyfrgell S4C

    Mae S4C yn ceisio trwy'r broses dendro hon benodi cwmni i reoli a gweithredu gwaredu tapiau ac offer o'i llyfrgell dâp ym Mharc Ty Glas, Llanisien o fewn cyfnod penodol.

    Cyhoeddwyd: 16 Chwefror 2023

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 03 Mawrth 2023 12:00yp

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 23 Mawrth 2023 12:00 yp

    (Cliciwch y botwm isod am fanylion pellach).

  • Tendr ar gyfer Cyflenwi/Trwyddedu Platfform Data Cwsmeriaid S4C

    Mae S4C yn ceisio ymrwymo i gytundeb ar gyfer cyflenwi a/neu drwyddedu platfform/offeryn/meddalwedd sy'n galluogi S4C i gael mynediad at a defnyddio data cwsmeriaid at ddibenion monitro, ymchwil a marchnata. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar wefan sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth.

    Cyhoeddwyd: 13 Ionawr 2022

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 03 Chwefror 2022 12:00yp

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 17 Chwefror 2022 12:00yp

    Gwahoddiad i Dendro ar gyfer Cyflenwi/Trwyddedu Platfform Data Cwsmeriaid

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer datblygu a chyhoeddi dyfais cysylltiol – Ap S4C Clic

    Mae S4C yn ceisio ymrwymo i gytundeb ar gyfer datblygu a chyhoeddi app S4C Clic ar draws ystod o ddyfeisiadau cyfryngau cysylltiedig.

    Cyhoeddwyd: 13 Rhagfyr 2022

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 21 Rhagfyr 2022 12:00yp

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 13 Ionawr 2022 12:00 yp

    Gwahoddiad i dendro ar gyfer datblygu a chyhoeddi dyfais cysylltiol (Ap S4C Clic)

  • Tendr i ddarparu Gwasanaethau Prynu Cyfryngau

    Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i gynghori, cynllunio, bwcio ac adolygu ymgyrchoedd yn y cyfryngau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: canol dydd, 10 Mehefin 2021

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: canol dydd, 3 Mehefin 2021


  • Cytundeb i ddarparu Gwasanaethau Prynu Cyfryngau

    Mae S3 Advertising wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu gwasanaeth prynu cyfryngau S4C am y tair blynedd nesaf.

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C

    Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2021

    Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 07 Ionawr 2022, 12:00 yp

    Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 21 Ionawr 2022, 12:00 yp

    Gwahoddiad i dendro ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C