S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i dendro am gytundeb i ddarparu Gwasanaethau Prynu Cyfryngau

Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i gynghori, cynllunio, bwcio ac adolygu ymgyrchoedd yn y cyfryngau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 27 Chwefror 2017 - canol dydd

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 17 Chwefror 2017 - canol dydd

Cwestiynau ac Atebion Tendr Gwasanaethau Prynu Cyfryngau

Cwestiwn 1

Mae'ch tendr yn nodi taw digidol yw'r prif ffocws ond hefyd yn nodi na fyddwch chi'n talu ffioedd, yn hytrach bydd yr asiantaeth yn derbyn comisiwn gan y darparwr cyfryngau. Nid yw'r prif blatfformau digidol - Google, Snapchat, Facebook, ayb yn talu comisiwn. Heb strwythur codi ffi ni fydd ganddoch chi mynediad i'r prif blatfformau a'r opsiynau hysbysebu digidol gorau. Mae'n bosib sefydlu ffioedd rheoli a threfnu ar gyfer rhain sy'n gyfartal i raddfeydd arferol comisiwn, felly ddim yn costio mwy. Ydy hyn yn rhywbeth byddwch yn fodlon ystyried newid?

Ateb 1

Fel y nodwyd yn y ddogfen dendr mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rhedeg yn fewnol (Facebook, Twitter, Instagram a Snapchat), a byddwn yn parhau i drefnu'r rhan fwyaf o ymgyrchoedd cyfryngau a gynhelir trwy'r platfformau hyn o fewn S4C. Ond, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i'r tendrwr llwyddiannus drefnu rhai ymgyrchoedd cyfryngau ar blatfformau digidol tebyg o dro i dro. Nodwch strwythur tâl a chyfraddau arfaethedig ar gyfer pryniannau ar unrhyw blatfform cyfryngau lle nad yw'r berthynas gomisiwn arferol yn berthnasol o fewn eich ymateb os gwelwch yn dda.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?