S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Data Gwylio a Gwerthfawrogiad y Gynulleidfa

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer gwasanaeth darparu data gwylio a gwerthfawrogiad y gynulleidfa mewn perthynas â rhaglenni S4C. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk ac wedi ei gyflwyno i'r "Official Journal of the European Union". Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Holiadur Cyn-Gymhwyso i S4C yw canol dydd, Ddydd Mercher 13eg Mehefin 2018.

Holiadur Cyn-Gymhwyso

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur hwn a/neu'r broses dendro hon at: Cwestiwn.Tendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur yw canol dydd, Ddydd Mercher 30ain Mai 2018.

Yn dilyn derbyn yr Holiaduron, bydd S4C yn ffurfio rhestr fer i'w gwahodd i dendro yn unol â'r ddogfen Gwahoddiad i Dendro. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i chi gyflwyno ymateb tendro yn unol â'r ddogfen isod. Ni ddylech ymateb i'r Gwahoddiad i Dendro ar y pwynt hwn.

Gwahoddiad i Dendro

Atodiad – Cytundeb Drafft

Cwestiwn 1

A allwch gadarnhau fod y lefelau gofynnol o yswiriant y mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus drefnu cyn i'r cytundeb gychwyn fel a ganlyn? Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr (Gorfodol) = £5,000,000; Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus = £10,000,000 fesul hawliad, gyda chyfanswm cronnol anghyfyngedig.

Ateb 1

Ie, fel a nodwyd yn y dogfennau tendr, dyma yw gofynion yswiriant lleiafswm S4C.

Cwestiwn 2

A yw'r gyllideb o £600,000 ar gyfer y contract tair blynedd, neu'n cynnwys yr opsiwn i ymestyn i 4 mlynedd?

Ateb 2

Y gyllideb ar gyfer 3 blynedd yw hyn.

Cwestiwn 3

A fydd y panel presennol yn cael ei throsglwyddo i'r cyflenwr newydd?

Ateb 3

Nid ydym yn disgwyl i'r panel presennol gael ei throsglwyddo.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?