S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

​Tendr ar gyfer Cytundebau Fframwaith Cyfieithu

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cyfieithu. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau Tendr yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Tendr i S4C yw canol dydd, dydd Mercher 04ydd o Hydref 2023.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: tendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Tendr yw canol dydd, dydd Mercher 20fed o Fedi 2023.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?