Tendrau

Tendrau

Gwahoddiad i dendro ar gyfer darparu Gwasanaethau Mynediad S4C

Mae S4C yn ceisio ymrwymo i gytundeb ar gyfer gwasanaethau mynediad S4C: Isdeitlo, Sain Ddisgrifio ac Arwyddeg ar y Sgrin.

Cyhoeddwyd: 23 Medi 2026

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 02 Hydref 2026 12:00yp

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 20 Tachwedd 2026 12:00 yp

Dogfennau

Cwestiynau ac Atebion

C1
Lot 3: A fydd S4C yn darparu ffeiliau isdeitlau Cymraeg neu Saesneg ar gyfer y rhaglenni i'w arwyddo?

A1
Gall S4C ddarparu ffeiliau isdeitlau Cymraeg a / neu Saesneg ar gyfer rhaglenni i'w arwyddo.

 

C2
Lot 3: A fydd S4C yn darparu deunydd are gyfer rhaglenni i'w arwyddo mewn sympiau, fesul cyfres neu yn wythnosol?

A2
Fe fydd S4C yn cyfleu deunydd ar gyfer rhaglenni sydd i'w harwyddo yn wythnosol. Ond, os yw deunydd ar gael yn gynt, mae'n bosib y bydd yn cael ei gyfleu yn gynt, mewn sympiau.

 

C3
Lot 3: Mae'r ddogfen yn nodi y bydd angen arwyddo rhwng 35-35 awr (hyd slot) yn ystod chwarter cyntaf y cytundeb a rhwng 20-35 awr (hyd slot) yn ystod yr ail chwarter. A yw hyn yn cyfeirio at chwarter cyntaf ac ail chwarter blwyddyn gyntaf y contract, neu at chwarter cyntaf ac ail chwarter pob blwyddyn gontract?

A3
Mae nifer yr oriau yn adlewyrchu blwyddyn gyntaf y contract ac fe'i bwriedir i roi syniad o'r cyfnodau tawelach drwy gydol y flwyddyn.

 

C4
Lot 3: Beth yw'r dyddiad disgwyliedig ar gyfer dechrau'r gwasanaeth arwyddo?

A4
Dyddiad darlledu cyntaf y cytundeb arwyddo fydd 06/03/2027 ac fe fyddwn yn disgwyl i’r rhaglenni i'w arwyddo gan eu hanfon yn ol atom yr wythnos flaenorol. Dylid anfon y deunydd wedi ei arwyddo at S4C ar 03/03/2027 neu 04/03/2027 fan bellaf.

 

C5
Mae'r ffurflen wybodaeth sylfaenol yn cynnwys gofod ar gyfer dynodwr unigryw'r Platfform Digidol Canolog (CPD), a bod y CDP ar gael yn https://www.gov.uk/find-tender ond nid wyf wedi gallu dod o hyd i hysbysiad tendr gwasanaethau Mynediad S4C ar ‘Find a Tender’. Allech chi gynghori?

A5
Mae'r Gwahoddiad i Dendro ar gael ar wefan tendr S4C a gwefan GwerthwchiGymru. Gan fod y tendr wedi'i eithrio o'r Ddeddf Caffael, nid yw wedi'i gyhoeddi ar wasanaeth ‘Find a Tender’ y DU felly nid oes angen dynodwr unigryw CDP. Rhowch ‘Dd/B' yn y blwch perthnasol o’r Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol.